Rheilffordd ffwniciwlar
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Math | steep grade railway, cable railway, adeiladwaith pensaernïol, cableway ![]() |
Yn cynnwys | funicular line, funicular station ![]() |
![]() |
System gludiant yw rheilffordd ffwniciwlar, sy'n defnyddio cerbydau sy'n cael eu gyrru ar gledrau gan gebl i gysylltu lleoliadau ar hyd llethr serth. Mae dau gerbyd gwrthbwys wedi'u cysylltu gan yr un cebl, sy'n pasio dros bwli ar ben uchaf trac. Mae'r ddau gerbyd yn symud ar y cyd: wrth i'r naill esgyn, mae'r llall yn disgyn. Y trefniant hwn o ddefnyddio pâr o gerbydau cysylltiedig sy'n nodweddu system ffwniciwlar.
Mae'r term "ffwniciwlar" yn deillio o'r gair Lladin funiculus, sef "rhaff fach".
Daeth y system hon i ddefnydd yng nghanol y 19g, a hyd heddiw mae wedi parhau i fod yn boblogaidd ledled y byd mewn trefi a dinasoedd lle mae llethr serth, yn ogystal â chyrchfannau i dwristiaid ar fynyddoedd.
Ym 1880 agorwyd rheilffordd ffwniciwlar a esgynnodd y llosgfynydd Mynydd Vesuvius ger Napoli, yr Eidal. Ysbrydolodd y digwyddiad hwn y gân Eidaleg boblogaidd Funiculì, Funiculà a ddaeth yn enwog drwy'r byd am gyfnod hir. (Dinistriwyd y rheilffordd hon gan ffrwydradau folcanig a'i gadael o'r diwedd ar ôl ffrwydrad 1944.)
Mae enghreifftiau rheilffyrdd ffwniciwlar yng Nghymru yn cynnwys Rheilffordd y Graig yn Aberystwyth, Tramffordd y Gogarth yn Llandudno, a Rheilffordd Canolfan y Dechnoleg Amgen ger Machynlleth.
Cerbyd ar un o'r llinellau Funiculaires de Lyon yn croesi stryd yn Lyon, Ffrainc
Gorsaf Funicolar Centrale yn Napoli, yr Eidal
Cerbyd ar Niesenbahn yng nghanton Bern, y Swistir
Cerbyd ar Ascensor Artillería yn Valparaíso, Tsile
Cerbyd ar Monongahela Incline yn Pittsburgh, Pennsylvania, Unol Daleithiau America