Keith Morris

Oddi ar Wicipedia
Keith Morris
GanwydKeith Thomas Morris Edit this on Wikidata
Mawrth 1958 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
Bu farw5 Hydref 2019 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethffotograffydd Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.artswebwales.com/ Edit this on Wikidata

Ffotograffydd o Gymro oedd Keith Morris (9 Mawrth 19585 Hydref 2019). Roedd yn adnabyddus am dynnu lluniau yng Nghymru ac yn enwedig am ddogfennu pobl a llefydd ei dref frodorol, Aberystwyth.[1]

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Ganwyd Keith Thomas Morris yn Aberystwyth, yn fab i Mona a John (Jack). Roedd ganddo chwaer a brawd.[2] Aeth i Brifysgol Caerwysg i astudio Daearyddiaeth, Economeg a Cynllunio Trefol ac Ysgol Economeg Llundain. Treuliodd gyfnod yng Nghaliffornia yng nghanol yr 1980au.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Cychwynnodd ei yrfa ym myd y theatr, fel cynllunydd goleuo. Daeth yn ffotograffydd llawrydd, bron drwy ddamwain, yn yr 1980au cynnar. Bu'n gweithio i ystod eang o gyrff yn y meysydd cerddoriaeth, theatr, teledu, ffilm a newyddiaduraeth. Roedd hefyd yn tynnu lluniau portread a lluniau priodas. Roedd yn gyfrannwr cyson ar radio a theledu yng Nghymru yn sylwebu ar ffotograffiaeth a byd theatr. Daeth yn bresenoldeb cyfarwydd mewn Eisteddfodau, gwyliau a nifer o ddigwyddiadau cyhoeddus yng Nghymru. Roedd yn gyn-gadeirydd Ffotogallery.

Tynnodd y llun ar gyfer clawr cyntaf y cylchgrawn Golwg yn 1988.[3] Bu hefyd yn tynnu lluniau llyfrgell ar gyfer Photo Library Wales a cychwynodd gyfrannu i asiantaeth Alamy yn 2006. Drwy hynny gwerthwyd ei luniau i gyhoeddwyr ar draws y byd. Yn 2014 cyrhaeddodd werthiant o $250k drwy Alamy.[4] Dywedir fod ei archif yn cynnwys dros filiwn o luniau yn ymestyn nôl i 1976.

Roedd ganddo brosiect personol yn tynnu lluniau o bawb gyda'r un enw ag ef yng Nghymru.[5] Yn y 1990au roedd yn gyfrifol am ddatblygu y wefan 'Theatre in Wales', cyfeiriadur i gwmniau ac unigolion ym myd y theatr yng Nghymru, gyda adolygiadau personol o gynyrchiadau theatrig.[6]

Yn 2008, roedd ei luniau o Aberystwyth yn gefndir i lyfr Aber: Ysgrifau am Aberystwyth gyda chwe ysgrif gan rai o drigolion y dre.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Heblaw am ei amser yn y coleg a'r amser yng Nghaliffornia, treuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd yn Aberystwyth, yn y tŷ oedd yn berchen i'w ddadcu.

Roedd yn briod â Gilly ac roedd ganddynt ddwy ferch.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Cyhoeddwyd ar fore 5 Hydref 2019 fod Keith ar goll ers amser cinio 3 Hydref.[7] Erbyn y prynhawn darganfuwyd corff ar draeth Borth, Ynyslas ac fe'i adnabyddwyd yn ffurfiol yn ddiweddarach.[8] Cynhaliwyd angladd preifat iddo ar 17 Hydref lle gyrrwyd ei arch i'r amlosgfa yn eu fan campio VW. Am 4pm cynhaliwyd dathliad o'i fywyd yn Neuadd Fawr, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Teyrngedau i’r ffotograffydd Keith Morris , Golwg360, 7 Hydref 2019. Cyrchwyd ar 8 Hydref 2019.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Announcing the passing ofKeith Thomas MORRIS. Western Mail (11 Hydref 2019).
  3. Cofio Keith Morris , Golwg360, 8 Hydref 2019.
  4.  Selling stock photos online with Alamy – $250k and counting…. Alamy (22 Awst 2014). Adalwyd ar 8 Hydref 2019.
  5. (Saesneg) About Keith Morris photographer. Adalwyd ar 8 Hydref 2019.
  6.  The First Tributes. Theatre in Wales (7 Hydref 2019). Adalwyd ar 8 Hydref 2019.
  7. Y ffotograffydd Keith Morris ar goll o Aberystwyth , Golwg360, 5 Hydref 2019. Cyrchwyd ar 8 Hydref 2019.
  8. Darganfod corff wrth chwilio am Keith Morris , Golwg360, 5 Hydref 2019. Cyrchwyd ar 8 Hydref 2019.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]