Ffordd y Gogledd, Aberystwyth

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ffordd y Gogledd, Aberystwyth
Gelli Anwen, Aberystwyth, arwydd ac cherdd

Un o brif stydoedd preswylio Aberystwyth yw Ffordd y Gogledd (Saesneg: North Road).

Daearyddiaeth y Ffordd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Ffordd y Gogledd yn gorwedd ar ochr ogleddol-ddwyrieniol tref Aberystwyth ar echel de i'r gogledd. I'r rhan fwyaf o'r stryd dim ond tai ar ochr sydd gyda golygfa ddyrchafiedig o dref Aberystwyth, y môr ac yn unionsyth o dan y ffordd, cyrtiau tenis Clwb Tenis Aberystwyth sydd a'i mynediad ar Morfa Mawr, Aberystwyth.

Mae ochr ddeheuol y ffordd yn creu cyffordd gyda Stryd y Dollborth, Ffordd Penglais a beth sydd, yn rhan o'r A487 sy'n arwain at Fachynlleth.

Mae ochr ogleddol y ffordd yn gwyro tua'r môr gyda Clinic Ffordd y Gogledd ar y chwith cyn creu cyffordd gyda Morfa Mawr, ac yna, bron yn unionsyth, stryd Glan-y-môr, Aberystwyth, sef y Promenâd enwog.

Mae'r tai yn dyddio o gyfnod diwedd oes Victoria a'r cyfnod cyn y Rhyfel Mawr yn helaeth a gosgeiddig ac ymysg y drytaf yn Aberystwyth. Yn wahanol i nifer o dai mawr tref Aberystwyth, mae nifer o deuluoedd yn dal i letya yn y stryd yn hytrach na myfyrwyr neu tai wedi eu troi'n fflatiau.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Plac THP-W, Aberystwyth

Rhoddwyd amlinielliad o stryd Morfa Mawr ym map William Couling o 1809 ond roedd gan fwyaf heb ei gyffwrdd yn 1834.[1] a tu ôl i'r ffordd roedd llwybr rhaf (rhopys), lle ddatblygodd Ffordd y Gogledd. Dechreuwyd adeiladu Neuadd y Dref yn 1856. Mae'r mwyafrif o'i adeiladau ar Ffordd y Gogledd a Morfa Mawr (sydd oddi tano) yn dyddio o'r 1890au ac 1900au. Ceir felly unffurfiaeth arddull i'r rhan fwayf o'r tai.[2]

Ceir elfennau o arddull Gothig i rai o adeliadau Morfa Mawr[3]

Ceir cofnod o'r enw fel North Road yn 1889[4] sy'n cyd-fynd gyda twf Aberystwyth wrth iddi ymestyn i'r gogledd a'r dwyrain.

T.H. Parry-Williams[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymysg yr enwogion sydd wedi byw ar Ffordd y Gogledd mae'r bardd Syr T.H. Parry-Williams a oedd yn ddarlithydd yn Mhrifysgol Aberystwyth.

By'n byw yn y 'Wern' a ceir plac llechen ar fur blaen y tŷ i gofnodi'r ffaith.

Evan D. Jones[golygu | golygu cod y dudalen]

Cartref olaf E.D. Jones, yr archifydd a llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru rhwng 1958 a 1969 oedd Penlle'rneuadd ar y stryd hon.

Ysbyty Ffordd y Gogledd[golygu | golygu cod y dudalen]

Clinic Ffordd y Gogledd, Aberystwyth, arwydd

Un o nodweddion hanesyddol y stryd yw mai dyma oedd lleoliad ysbyty lleol, Aberystwyth Infirmary and Cardiganshire General Hospital rhwng (1838 - 1936), ac yna'r Aberystwyth and Cardiganshire General Hospital (1936 - 1966). The North Road site was in operation from 1888-1966. Tua ddiwedd y sefydliad oedd yn Uned Henoed (Geriatric Unit), a gaeaodd ac yna a ddymchwelwyd yn 1998. Dyma oedd safle brif ysbryty nes agor Ysbyty Bronglais ar ryw Penglais, oddeutu chwarter milltir i'r gogledd.[5]

Cofnodir hanes yr ysyty gydag enw stryd fechan Infirmary Rd / Ffordd yr Ysbyty sydd yn arwain oddi ar ochr ddwyreiniol Ffordd y Gogledd a tu ôl iddi.

Ceir adlais o draddodiad meddygol Ysbyty Ffordd y Gogledd gyda bodolaeth Clinig Ffordd y Gogledd ar ochr pellaf y stryd tuag at y môr. Dyma ysbyty iechyd rhyw, llygaid a thraed. Bydd yn adnabyddus i nifer o fyfyrwyr dros y degawdau gan fod modd cael cyfarpar atal cenhedlu megis conodoms, yno am ddim.

Nodweddion[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyrtiau tenis Morfa Mawr o Ffordd y Gogledd

Ceir sawl nodwedd hynod i'r ffordd.

  • Lleolir crtiau Tenis [[Clwb Tenis Aberystwyth] oddi tan y ffordd
  • Clinig Ffordd y Gogledd
  • Fflatiau Penmorfa - ceir y blociau fflat yma ar ochr ddeheuol y ffordd.
  • Gelli Anwen - ceir llwybr troed serth sy'n arwain at Gastell Brychan, pencadlys Cyngor Llyfrau Cymru sydd uwchben y ffordd. Enwir y llwybr ar ôl Anwen Tydu Jones (1963-2008) oedd yn gweithio yn y Cyngor Llyfrau. Ysgrifenwyd cerdd fer sydd ar gofeb llechen i'r llwybr gan gŵr a gweddw Anwen, y diweddar Afan ab Alun, bu am gynfod yn Faer Aberystwyth yn 1985[6].

Geiriad y plac llechen ar droed 'Gelli Anwen'[golygu | golygu cod y dudalen]

Er cof am Anwen Tydu
28.1.1963 – 14.07.2008

Dringo wna hyd Gastell Brychan
O Ffordd y Gogledd islaw’n dre
Pedair gwaith bob dydd bu Anwen
Yn esgyn a disgyn y grisiau’n gre’

Defnyddia Anwen y llwybr gan ddringo’r cant a saith o risiau bedair gwaith y dydd am dros ugain mlynedd, mwy na deng mil ar hugain o weithiau.

Afan ab Alun

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. http://cadw.gov.wales/docs/cadw/publications/130812aberystwyth-understandingurbancharacteren.pdf
  2. http://cadw.gov.wales/docs/cadw/publications/130812aberystwyth-understandingurbancharacteren.pdf
  3. http://cadw.gov.wales/docs/cadw/publications/130812aberystwyth-understandingurbancharacteren.pdf
  4. http://archifdy-ceredigion.org.uk/uploads/aberystwyth_street_names_table_for_website.pdf
  5. http://www.coflein.gov.uk/cy/site/3082/details/aberystwyth-infirmary-north-road-hospital
  6. https://www.aberystwyth.gov.uk/cy/cyngor/hanes-y-fwrdeistref/meiri-aberystwyth