Morfa Mawr, Aberystwyth

Oddi ar Wicipedia
Rhes dai nodweddiadol ar Morfa Mawr

Stryd yn Aberystwyth yw Morfa Mawr (Saesneg: Queen's Road).

Lleoliad[golygu | golygu cod]

Canolfan Alun R. Edwards, hen Neuadd y Dref, bellaf Llyfrgell Tref Aberystwyth
Adeilad hynod Tŷ Edleston, Morfa Mawr

Lleolir Morfa Mawr yn rhan Fictorianaidd y dref. Mae'r stryd hir mewn perthynas â strydoedd eraill Aberystwyth. Mae ei phen ddeheuol yn ffurfio croesffordd brysur gyda Rhodfa'r Gogledd a dechrau Stryd y Dollborth (Northgate Street) (sy'n rhan o'r A487) a Stryd Thespis (Thespian Street).

Mae ei phen gogleddol yn gorffen wrth droed Craig-glais ("Consti") a Rheilffordd y Graig.

Nodweddion[golygu | golygu cod]

Hen Dŷ'r Bad Achub

Stryd o aneddau yw Morfa Mawr gan fwyaf. Ceir yno dai mawr tair neu bedair llawr sy'n gartrefi teuluol, fflatiau i weithwyr a theuluoedd ac i fyfyrwyr. Mae'r rhan fwyaf o'r tai ar ochr ogleddol y stryd.

Wrth i'r stryd estyn tuag at Craig Glais mae ochr chwith y stryd yn cefnu ar feysydd parcio a gerddi nifer o westai Promenâd Aberystwyth. Prin yw'r siopau ar y stryd.

Ymysg ei nodweddion mae:

  • Canolfan y Morlan - canolfan Gristnogol a chymunedol sy'n cynnal amrywiaeth eang o ddigwyddiadau
  • Clwb Tenis Aberystwyth - cyrtiau ac adeilad clwb
  • Hen Dŷ'r Bad Achub, bu unwaith wedyn yn stiwdio fechan i'r BBC yn Aberystwyth wedi iddynt adael ystafell ar gornel Ffordd y Môr a Maes Cambria
  • Tafarn 'Scholars'. Yr hen enw ar y dafarn oedd y 'Chrystal Palace'
  • Canolfan Fethodistaidd St Paul (ar gornel Stryd y Baddon)
  • Olion hen chwarel
  • Rheilffordd y Graig - trên feniciwlar lan fryn Craig-glais

Maes y Frenhines[golygu | golygu cod]

Rheilffordd y Graig ar ben gogleddol Morfa Mawr

Ceir gwyriad fechan yn ffordd Morfa Mawr wrth i'r ffordd tarmac grey bwa bychan a gyda hynny, man di-draffig yn union o flaen grisiau Canolfan Alun R. Edwards. Gelwir y rhan yma o'r stryd a'r gerddi o'i blaen yn Maes y Frenhines (Queen's Square).

Lleoliad Llyfrgell Tref Aberystwyth yng Nghanolfan Alun R. Edwards. Yr adeilad hardd yma oedd hen bencadlys Cyngor Tref Aberystwyth.

Hanes[golygu | golygu cod]

Fel awgryma'r enw Cymraeg, roedd y rhan hyn o'r hyn ddaeth maes o law yn dref Aberystwyth, ar un adeg yn forfa a hynny y tu allan i ffiniau canoloesol y dref.

Rhoddwyd amlinielliad o stryd Morfa Mawr ym map William Couling o 1809 ond roedd gan mwyaf heb ei gyffwrdd yn 1834.[1] Tu ôl i'r ffordd roedd llwybr rhaf (rhopys). Dechreuwyd adeiladu Neuadd y Dref yn 1856. Mae'r mwyafrif o'i adeiladau ar Morfa Mawr a Ffordd y Gogledd (sydd y tu cefn iddi) yn dyddio o'r 1890au ac 1900au. Ceir felly unffurfiaeth arddull i'r rhan fwayf o'r tai.[1]

Ceir elfennau o arddull Gothig i rai o adeliadau Morfa Mawr[1]

Ceir cofnod o'r stryd, o dan enw 'Queen's Road' yn 1889.[2]

Oriel[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2015-09-14. Cyrchwyd 2018-05-29.
  2. http://archifdy-ceredigion.org.uk/uploads/aberystwyth_street_names_table_for_website.pdf

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Gwefan Cyngor Tref Aberystwyth