Alun R. Edwards
Alun R. Edwards | |
---|---|
Ganwyd | 1919 Tregaron |
Bu farw | 1986 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llyfrgellydd |
Llyfrgellydd oedd Alun R. Edwards (1919–1986).
Magwyd yn Llanio, ger Tregaron, Ceredigion a bu'n gweithio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru pan oedd yn ifanc.[1]
Fe'i apwyntiwyd yn llyfrgellydd yn gyntaf yn Ionawr 1950. Dros y chwarter canrif a rhagor nesaf, chwyldrôdd y gwasanaethau llyfgell Ceredigion ac yn wir y diwydiant llyfrau yng Nghymru gyfan. Ymhlith ei weledigaethau a gafodd eu gwireddu oedd ehangu gwasanaethau llyfrgelloedd teithiol, y coleg llyfrgellwyr yn Aberystwyth, cynllun pryniant y siroedd, Cyngor Llyfrau Cymru, sefydlu grwpiau darllen a thrafod a darparu llyfrgell tapiau caset.
Yn dilyn adrefnu llywodraeth leol fe'i penodwyd yn Llyfrgellydd Dyfed. Ymddeolodd yn 1980.
Cydnabyddiaeth
[golygu | golygu cod]Enwyd yr adeilad lle lleolir Llyfrgell Tref Aberystwyth ac Archifdy Ceredigion ar Maes y Frenhines, Morfa Mawr Aberystwyth yn 'Ganolfan Alun R. Edwards' er cof a pharch at waith breiniarol Alun.