Archifdy Ceredigion

Oddi ar Wicipedia
Archifdy Sir Ceredigion
Matharchif rhanbarthol, archifdy sir Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadAberystwyth Edit this on Wikidata
SirCeredigion Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Uwch y môr8.3 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.417267°N 4.08153°W Edit this on Wikidata
Cod postSY23 2EB Edit this on Wikidata
Rheolir ganCyngor Sir Ceredigion Edit this on Wikidata
Map

Gwasanaeth archifau rhanbarthol ac archifdy sirol Cyngor Sir Ceredigion yw Archifdy Ceredigion.[1] Wedi'i lleoli ers 2012 [2] yn Neuadd y Dref Aberystwyth, mae'r archif yn casglu, curadu, cadw a rhoi mynediad i gofnodion yn ymwneud â'r sir a'i gweinyddiad.

Mae’r archifau ar agor i’r cyhoedd ar gyfer ymchwil hanes teulu a hanes lleol, gwaith gradd prifysgol, ymchwil academaidd, ac ymchwil at ddibenion busnes.

Hanes[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd Archifdy Sir Ceredigion yn 1974 fel y drydedd archifdy ar gyfer Dyfed ac fe'i gelwid yn wreiddiol fel Archifdy Ardal Sir Aberteifi.[3] Cafodd ei ailenwi a'i ail-lansio fel Archifdy Ceredigion yn 1996.[4] Hyd at 2012 roedd yr Archif wedi’i lleoli yn adeilad rhestredig Gradd II Gwesty’r Frenhines ar Bromanâd Aberystwyth ond pan werthodd y cyngor yr adeilad, adeiladwyd cyfadeilad archif pwrpasol newydd yn Hen Neuadd y Dref, sydd hefyd yn gartref i Lyfrgell y dref.[2] Yn 2019 sicrhaodd yr Archifau gyllid gan Lywodraeth Cymru i brynu’r hen orsaf bad achub gerllaw er mwyn throi’n safle storio ar gyfer archifau.[5]

Hen adeilad neuadd y dref, 1903

Casgliadau[golygu | golygu cod]

Mae'r archifau yn cadw nifer o gasgliadau hanesyddol pwysig yn ymwneud â hanes Ceredigion. Mae'r rhain yn cynnwys cofnodion llys, cofnodion ystadau a chofrestrau plwyf, sy'n golygu bod yr archifau'n boblogaidd efo ymchwilwyr hanes teulu.[6] Mae'r archif hefyd yn cynnwys casgliad o gofnodion llongau o'r 19eg ganrif [7] a chasgliad cynhwysfawr o gofnodion cofrestru ceir, yn olrhain hanes moduro yn y sir. [8]

Yn 2015 derbyniodd yr archifau grant gan yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Llawysgrifau Genedlaethol i trwsio llythyr pwysig gan filwr lleol a ymladdodd ym Mrwydr Waterloo . [9]

Mae'r archifau hefyd yn cadw archifau cyhoeddus Cyngor Sir Ceredigion gan gynnwys cofrestrau etholiadol, cofnodion ysgolion a chofnodion cynghorau lleol. [10]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Cyngor Sir Ceredigion County Council". www.ceredigion.gov.uk. Cyrchwyd 2022-12-12.
  2. 2.0 2.1 "Recent History 1974 until the present - Aberystwyth Council". www.aberystwyth.gov.uk. Cyrchwyd 2022-12-12.
  3. "ARCHIFDY CEREDIGION ARCHIVES · British Universities Film & Video Council". bufvc.ac.uk. Cyrchwyd 2022-12-12.
  4. by, Written (2021-01-06). "Cardiganshire Record Office - Family Tree Resources" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-12-13.
  5. "Former lifeboat station to house archives | cambrian-news.co.uk". Cambrian News. 2019-05-30. Cyrchwyd 2022-12-12.
  6. "Record Offices in Wales". www.familysearch.org. Cyrchwyd 2022-12-12.
  7. "Crew List Index Project". www.crewlist.org.uk. Cyrchwyd 2022-12-12.
  8. Archives, Archifdy Ceredigion (2014-10-07). "HISTORY OF EARLY MOTORING IN CARDIGANSHIRE". Ceredigion Archives (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-12-12.
  9. "Wales and Waterloo: Napoleonic tales among archive cache". BBC News (yn Saesneg). 2015-01-12. Cyrchwyd 2022-12-12.
  10. "Catalogue - Ceredigion Archives - Archifdy Ceredigion - Ceredigion Archives". archifdy-ceredigion.org.uk. Cyrchwyd 2022-12-12.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]