Amgueddfa Ceredigion

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Amgueddfa Ceredigion
Amgueddfa Ceredigion (2015).jpg
Amgueddfa Ceredigion is located in Ceredigion
<div style="position: absolute; z-index: 2; top: Gwall mynegiad: Operand ar gyfer * ar goll.%; left: 427.9%; height: 0; width: 0; margin: 0; padding: 0;">
Location within Ceredigion
Sefydlwyd 1972 (1972)
Lleoliad Aberystwyth, Ceredigion, Cymru
Coordinates 52°24′59″N 4°05′02″W / 52.4164°N 4.0838°W / 52.4164; -4.0838
Math Amgueddfa leol
Perchennog Cyngor Sir Ceredigion
Gwefan http://www.ceredigionmuseum.wales

Amgueddfa leol yw Amgueddfa Ceredigion a leolir ar Ffordd y Môr (Terrace Road yn Saesneg) yng nghanol tref Aberystwyth.

Hanes a pherchnogaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Sefydlwyd yr amgueddfa yn 1972 gan Gymdeithas Hynafiaethol Ceredigion (Cardiganshire Antiquarian Society) a gyflwynodd hi i Gyngor Dosbarth Ceredigion a sefydlwyd yn 1974. Yn 1996 fe drosglwyddwyd y perchnogaeth i Gyngor Sir Ceredigion yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru.

Ariennir yr Amgueddfa yn bennaf gan Gyngor Sir Ceredigion er ceir grantiau ychwanegol o bryd i'w gilydd ar gyfer prosiectau penodol.

Cefnogir hi hefyd gan fudiad 'Cyfeillion Amgueddfa Ceredigion'.

Adeilad[golygu | golygu cod y dudalen]

Amgueddfa Ceredigion gyda'r mynedfa newydd ar Ffordd y Môr
Rhan o arddangosfa'r Amgueddfa
Caffe'r Amgueddfa

Lleolir yr amgueddfa ar draws sawl hen adeilad gan gynnwys hen sinema Coliseum y dref. Yn 2017 symudwyd mynedfa'r Amgueddfa oddi ar gornel Ffordd y Môr â Stryd y Baddon, lle mae bar coctêl Y Bañera bellach, i ganol Ffordd y Môr.

Ceir siop a derbynfa a chanolfan dwristiaeth y dref ar y llawr ddaear ac o ddringo grisiau neu esgynydd ceir caffi ar y llawr cyntaf, a llawr cyntaf casgliad yr amgueddfa ac oriel achlysurol, a rhagor o gasgliadau ar yr ail-lawr.

Mae'r amgueddfa ar agor 10.00am - 5.00pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Mae ar gau ar ddydd Sul.

Casgliadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae gan yr amgueddfa dros 60,000 o wrthrychau am hanes Ceredigion[1]. Mae'r rhan fwyaf o'r arteffactau yng nghasgliad yr amgueddfa wedi ei gwneud neu eu defnyddio yng Ngheredigion rhwng 1850 a 1950 (ond mae'n anodd dyddio rhai yn hollol gywir) ac mae'r rhan fwyaf o'r lluniau o bobl a mannau yng Ngheredigion.[2]

Ceir arddangosfeydd parhaol yn arddangos ac ymwneud â themâu: amaeth, diwydiant y môr, dodrefn Cymreig o'r 17g i'r 19g, deunydd cartref, dillad, trafnidiaeth a diwylliant.[3]

Ceir casgliad dda o waith tacsidermi gan y teulu Hutchings (1870s–1942) a darluniau gan Alfred Worthington (1835–1925).

Ceir hefyd arddangosfeydd gan artistiaid cyfoes lleol, Cymreig ac weithiau tramor.

Digwyddiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Plac i'r Arlunydd Alfred Worthington sydd ar ochr Stryd Portland, Aberystwyth o'r Amgueddfa

Cynhelir cyngherddau cerddorol o bob math yn yr amgueddfa gan gynnwys Lleuwen Steffan a grwpiau gwerin Cymreig, tramor a grwpiau canu cyfoes. Ceir hefyd gwersi ioga a digwyddiadau amrywiol ac achlysurol eraill.[4]

Trefnir hefyd weithgareddau i oedolion a phlant a gellir dilyn taith dywys hanesyddol o dref Aberystwyth gan John Weston.

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]