Aberystwyth (emyn-dôn)

Oddi ar Wicipedia

Mae Aberystwyth yn un o emyn-donau mwyaf poblogaidd Cymru. Fe'i cyfansoddwyd gan Dr Joseph Parry ym 1876.

Hanes[golygu | golygu cod]

Cyfansoddwyd y dôn gan Joseph Parry ym 1876 ac fe'i cyhoeddwyd gyntaf 1879 yn llyfr Edward Stephen Ail Lyfr Tonau ac Emynau .[1][2] Roedd Parry, ar y pryd, yn athro cyntaf, a phennaeth yr adran gerdd ym Mhrifysgol Cymru, a oedd newydd ei sefydlu yn Aberystwyth, (Prifysgol Aberystwyth bellach). Roedd hefyd yn gwasanaethu fel organydd Capel yr Annibynwyr Saesneg yn Stryd Portland, Aberystwyth. Perfformiwyd y dôn am y tro cyntaf ar organ y capel gan Parry ei hun ym 1879.

Defnydd[golygu | golygu cod]

Yn y Gymraeg defnyddi'r dôn, fel arfer yn gyfeiliant i'r emyn Iesu, cyfaill f'enaid cu:

Iesu, cyfaill f'enaid cu,
I dy fynwes gad im' ffoi.
Tra bo'r dyfroedd o bob tu,
A'r ym tymhestloedd yn crynhoi.
Cudd fi, O fy Mhrynwr! cudd,
Nes 'r el heibio'r storom gref;
Yn arweinydd imi bydd
Nes im' dd'od i dyernas nef.

Sef Cyfieithiad o emyn Charles Wesley Jesus, Lover of My Soul.[3]

Jesu, Lover of my soul
Let me to Thy bosom fly
While the gathering waters roll
While the tempest still is high;
Hide me, O my Saviour, hide
Till the storm of life is past;
Safe into the haven guide,
O receive my soul at last.

ac emyn Morgan Rhys

BETH sydd imi yn y byd?
Gorthrymderau mawr o hyd;
Gelyn ar ôl gelyn sydd
Yn fy nghlwyfo nos a dydd.
Meddyg archolledig rai,
Tyrd yn fuan i'm iacháu.

Ym 1897 cyfansoddodd Enoch Sontonga yr emyn Xhosa Nkosi Sikelel' iAfrika (Arglwydd a'ch Bendithio Affrica), a'i osod i Aberystwyth. Daeth y gân yn anthem i'r achos ryddid pan-Affricanaidd. Ond erbyn iddi ddod yn anthem genedlaethol Tansanïa a Sambia, ac, ers 1994, yn rhan o anthem genedlaethol De Affrica; dim ond adlais gwan o dôn gwreiddiol Parry oedd ar ôl.

Nkosi sikelel' iAfrika
Maluphakanyis' uphondo lwayo
Yiva imithandazo yethu
Nkosi sikelela, Thina lusapho lwayo
Yehla Moya, Yehla Moya,
Yehla Moya Oyingcwele

Oriel[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. The Concise Oxford Dictionary of Music
  2. Let the People Sing: Hymn Tunes in Perspective, Paul Westermeyer, page 217
  3. Hymnary.org