Edward Stephen (Tanymarian)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Edward Stephen
Revd Edward (Jones) Stephen (Tanymarian, 1822-85) NLW3362706.jpg
Ganwyd 9 Rhagfyr 1822 Edit this on Wikidata
Maentwrog Edit this on Wikidata
Bu farw 10 Mai 1885 Edit this on Wikidata (62 oed)
Llanllechid Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Gweinidog yr Efengyl, cerddor Edit this on Wikidata

Roedd Edward Jones Stephen (Tanymarian) (9 Rhagfyr, 182210 Mai, 1885) [1] yn weinidog Annibynnol ac yn gerddor Cymreig. [2]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Edward Jones Stephen yn Rhyd y Sarn, Maentwrog, Meirionnydd, yn blentyn i Robert Jones Stephen a Jane ei wraig. Fe'i ganwyd ar 9 Rhagfyr 1822 ac fe'i bedyddiwyd yn Eglwys San Mihangel, Ffestiniog ar 15 Rhagfyr 1822. Er bod nifer o ffynonellau (gan gynnwys y Bywgraffiadur a'r ODNB) yn honni ei fod wedi mabwysiadu'r cyfenw Stephen wedi cychwyn yn y coleg er mwyn ei wahaniaethu rhag Edward Jones arall, Stephen yw ei gyfenw yn ei gofnod bedydd [3] ac fel Edward Stephen mae wedi cofnodi ar gyfrifiad 1841. [4] Cafodd ei addysgu yn ysgol Penralltgoch ac Athrofa'r Annibynwyr yn y Bala.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi ymadael a'r ysgol aeth Stephen yn brentis teiliwr i'w frawd hŷn William, gan weithio fel teiliwr ar ei liwt ei hun wedi darfod ei brentisiaeth. Dechreuodd bregethu tua 1841 yn Saron, Llan Ffestiniog a chafodd ei dderbyn i Athrofa'r Bala ym 1843 lle fu'n efrydydd am dair blynedd. Ym 1847 cafodd ei ordeinio'n weinidog ar gapel Horeb Dwygyfylchi. Ym mis Tachwedd 1856 symudodd i fod yn weinidog ar gapeli Bethlehem a Carmel, Llanllechid. Enw ei gartref yn Llanllechid oedd Tan y marian, mabwysiadodd enw ei gartref fel ei enw barddol. [5]

Teulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Priododd Stephen ym 1856 ei wraig oedd Elizabeth Samuel merch y Parch Llywelyn Samuel, rhagflaenydd Stephen fel gweinidog Annibynnol Llanllechid. Cawsant dau fab a merch.

Cerddor[golygu | golygu cod y dudalen]

Er na chafodd unrhyw hyfforddiant ffurfiol yn y maes roedd Stephen yn dod o deulu cerddorol a dysgodd bod yn gerddor medrus ar yr aelwyd. [6]

Cyhoeddodd cyfres o erthyglau ar gerddoriaeth yn Y Cronicl ym 1848-9 . Roedd hefyd yn ddarlithydd poblogaidd ar y pwnc. Rhwng Ionawr 1821 a Mai 1852, tra yn Nwygyfylchi, cyfansoddodd ei oratorio enwog Ystorm Tiberias, a gyhoeddwyd ym Methesda mewn saith rhan rhwng 1821 a 1855. Hwn oedd yr oratorio gyntaf o'i fath gan gyfansoddwr o Gymru. Daeth rhai o gytganau'r oratorio, yn enwedig Dyma'r gwyntoedd yn ymosod, yn boblogaidd gyda chorau Cymreig a chawsant eu mabwysiadu fel darnau prawf eisteddfodol.

Roedd Stephen yn arweinydd corau a chymanfaoedd ac yn feirniad eisteddfodol rheolaidd. Roedd ei ddylanwad ar ddatblygu canu cynulleidfaol ymhlith Annibynwyr Cymru, yn aruthrol. Bu'n olygydd cerddorol llyfrau emynau ei enwad: Cerddor y Cyssegr (1860), Llyfr Tonnau ac Emynau (gyda Joseph David Jones 1868) ac Ail Lyfr Tonnau ac Emynau (1879). Roedd yr ail lyfr yn cynnwys ei emyn dôn mwyaf adnabyddus Tanymarian, roedd hefyd yn cynnwys cyhoeddiad cyntaf Aberystwyth Joseph Parry. Rhwng Ebrill 1861 a Mai 1863 golygodd Stephen Greal y corau.

Ysgrifennodd Stephen, a oedd hefyd yn ddaearegwr amatur, sawl papur yn Gymraeg ar ddaeareg, a chyflwynwyd ei gasgliad o sbesimenau i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. [7]

Detholiad o'i waith[golygu | golygu cod y dudalen]

Anthemau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Llawen floeddiwch i Dduw
  • Wrth afonydd Babilon
  • Disgwyliad Israel

Emyn donau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Tanymarian

Caneuon[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Hen Gadair Freichiau
  • Cainc y delyn
  • Carlo

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw yn ei gartref yn Llanllechid yn 62 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Capel Bethlehem, Tal y Bont, Llanllechid. [8] Cyhoeddwyd cofiant iddo dan olygyddiaeth William John Parry Cofiant Tanymarian [9]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Y DIWEDDAR BARCHEDIG EDWARD STEPHENS TANYMARIAN - Y Celt". H. Evans. 1885-05-15. Cyrchwyd 2020-02-05.
  2. Edward Stephen (Tanymarian) - gweinidog a chyfansoddwr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 5 Chwefror 2020
  3. Archif Gwynedd, Dolgellau. Cofrestr Bedydd Ffestiniog, Cofnod 289, 15 Rhagfyr 1822 Edward son of Robert Jones Stephen, Rhyd y Sarn, Labourer, John Jones Rector
  4. Yr Archif Genedlaethol Cyfrifiad 1841 Pen y Bryn Ffestiniog HO107/1427 Llyfr 3, Ffolio 43, tudalen 16.
  5. Stephen, Edward Jones (pseud. Tanymarian) ODNB adalwyd 5 Chwefror 2020
  6. Delyth G. Morgans; Cydymaith Caneuon Ffydd tud 683; Pwyllgor Caneuon Ffydd; 19 Rhagfyr 2008; ISBN 9781862250529
  7. "Edward Stephen (Tanymarian) Papers - Archives Hub". archiveshub.jisc.ac.uk. Cyrchwyd 2020-02-05.
  8. "FUNERAL OF TANYMARIAN - South Wales Echo". Jones & Son. 1885-05-16. Cyrchwyd 2020-02-05.
  9. "COFIANT TANYMARIAN - Y Dydd". William Hughes. 1885-10-09. Cyrchwyd 2020-02-05.