Stryd y Farchnad, Aberystwyth

Oddi ar Wicipedia
Stryd y Farchnad
Mathstryd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAberystwyth Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Stryd y Farchnad, Aberystwyth, Adeilad Pantyfedwen

Un o strydoedd hynaf Aberystwyth yw Stryd y Farchnad (Saesneg: Market Street).

Fe'i lleolir rhwng y Stryd Fawr a Stryd y Porth Bach.

Hanes[golygu | golygu cod]

Mae'r stryd yn gorwedd o fewn hen ffiniau Oesoedd Canol y dref er nad oedd adeilad ar y tir yno nes y 19g. Perchnoga deulu Powell o Nanteos eiddo ar Heol y Wig a stryd Porth Bach yn ogystal â'r tir lle mae Stryd y Farchnad heddiw a buont yn adeiladu yno rhwng 1809 ac 1832.[1]

Bu Aberystwyth yn dref farchnad ers 1277 ac erbyn y 19g roedd y dref wedi tyfu. Agorwyd marchnad gig ar Maes Iago (St James's Square) ar ben uchaf y Stryd Fawr yn 1823. Yn 1835 penderfynodd Comisiwn Adnewyddu (Improvements Commission) y dref: "the stalls and standing places near to and about the town hall used by hawkers, hatters and the sellers of fruit, vegetables etc, by reason of their obstructing the footways be removed to the new market house in Marlet St.[2]

Dyma oedd yr hen Farchnad Ŷd (Corn Market) a adeiladwyd yn 1832 a bu'n rhaid ei hail-adeiladu ddwywaith yn 1870 ac 1895. Yn 1910 daeth yn lleoliad sinema gyntaf Aberystwyth, Cheetham's Picture Palace ac yn 1923 trodd hwnnw i sinema'r Palladium. Difrodwyd yr adeilad gan dân yn 1935. Dymchwelwyd yr adeilad eto gan greu adeilad newydd Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen yn 1966-67.

Nodweddion[golygu | golygu cod]

Stryd cwta yw Stryd y Farchnad sydd ond oddeutu 40m o hyd wrth iddi gysylltu y Stryd Fawr a'r Porth Bach. Heblaw am adeilad fodern Pantyfedwen, ceir adeiladau 4 llawr gosgeuddig Sioraidd.

Ceir bwytu Medina ar safle hen Westy'r Talbot. Ceir hefyd siopau preifat.

Adeilad Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen[golygu | golygu cod]

Plac ar Adeilad Pantyfedwen, Stryd y Farchnad

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen wrth gyfuno dau o ymddiriedolaethau blaenorol Syr D.J. James yn 1998. Agorwyd yr adeilad fodern yn 1967, ychydig fisoedd yn unig wedi marwolaeth ei sylfaenydd, D.J. James. Mae'r elusen yn dosbarthu grantiau ym maes diwylliant a Christnogaeth Gymraeg.[3]

Ar du allan yr adeilad ceir cerflun o Syr D.J. James a phlac yn nodi ei hanes.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2015-09-14. Cyrchwyd 2018-05-23.
  2. "http://cadw.gov.wales/docs/cadw/publications/130812aberystwyth-understandingurbancharacteren.pdf Archifwyd 2015-09-14 yn y Peiriant Wayback.
  3. http://www.jamespantyfedwen.cymru/history.html

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]