Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Syr D. J. James, Pantyfedwen, ar fur y pencadlys yn Aberystwyth
Stryd y Farchnad, Aberystwyth, Adeilad Pantyfedwen

Ymddiriedolaeth y diweddar Syr D.J. James (gŵr busnes llwyddiannus a chymwynaswr mawr, 1887 - 1967) yw Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen. Mae'r ymddiriedolaeth yn gyfrifol am gefnogi achosion a digwyddiadau sy'n hyrwyddo diwylliant a Christnogaeth Gymraeg.

Lleolir pencadlys yr Ymddiriedolaeth mewn adeilad gyfoes ei golwg ar Stryd y Farchnad yng nganol Aberystwyth.

Ceir llawer o wybodaeth am yr Ymddiriedolaeth ar ei gwefan.[1]

Yr Ymddiriedolaeth bresennol[golygu | golygu cod y dudalen]

Daeth Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen i fod ar y 1 Ebrill 1998 pan sefydlwyd Cynllun newydd a dderbyniodd fendith y Comisiwn Elusennau. Ond mae'r Ymddiriedolaeth hon yn ddilyniant i ddwy ymddiriedolaeth flaenorol - Ymddiriedolaeth Catherine a'r Fonesig Grace James (sefydlwyd yn 1957) ac Ymddiriedolaeth John a Rhys Thomas James (sefydlwyd yn 1967). Sefydlwyd y ddwy ymddiriedolaeth gan y diweddar Syr D. J. James gyda'r bwriad o greu gwaddol parhaol er budd pobl Cymru. Rhoddwyd enwau ei fam (Catherine James) a'i wraig (y Fonesig Grace James) i'r ymddiriedolaeth gyntaf ac enwau ei dad (John James) a'i frawd (Rhys Thomas James) i'r ail.

Mae'r Cynllun Elusennol, ynghyd â’r Cynllun Lleol, ar gyfer yr Ymddiriedolaeth wedi eu seilio ar ddymuniadau a blaenoriaethau y diweddar Syr D J James, ond mae’r dogfennau hefyd yn adlewyrchu’r ffaith fod anghenion Cymru ychydig yn wahanol i’r hyn a welid pan sefydlwyd yr Elusennau. Ers 2015, mae’r Ymddiriedolaeth yn dehongli amcanion yr Ymddiriedolaeth drwy ddyfarnu grantiau i dri grŵp penodol o fuddiolwyr, sef:

i) myfyrwyr ar gyfer astudiaethau uwchraddedig; ii) eglwysi unigol ar gyfer gwelliannau ac atgyweiriadau i adeiladau eglwysig, gyda blaenoriaeth ar gyfer gwelliannau sy'n gysylltiedig â phrosiectau cenhadol lleol; ac iii) Eisteddfodau.

Cefnogaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r Ymddiriedolaeth yn cefnogi ceisiadau mewn 3 prif faes; eglwysi, myfyrwyr, ac eisteddfodau.[2]

Eglwysi[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen yn flynyddol yn cefnogi nifer fawr o eglwysi a chapeli ledled Cymru drwy gynnig grantiau iddynt wella ac adnewyddu eu hadeiladau. Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau lle mae’r awydd i wella ac adnewyddu adeilad yn gysylltiedig â datblygu bywyd a gwaith cenhadol yr eglwys.

Ymysg y ceisiadau llwyddiannus bu, mae: Hope Church, Y Drenewydd, Eglwys St Mary the Virgin, Helygain; Capel y Nant, Clydach; Eglwys Sant Jerome, Llangwm, Sir Benfro; Eglwys Unedig Gloddaeth, Llandudno; Capel Cildwrn, Llangefni.

Myfyrwyr[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r Ymddiriedolaeth yn cefnogi tua 50 o fyfyrwyr uwchraddedig bob blwyddyn, boed y rheiny’n fyfyrwyr Meistr neu’n fyfyrwyr PhD mewn pob math o bynciau. Maent wedi cynnwys; Daniel Adams, MRes mewn Gwyddorau Cancr; Isabella Boorman, MA mewn Hanes Celf; Teleri Hughes, MA Theatr Gerdd;Catherine Jones, Cerddoriaeth; Jessica Lloyd Jones, Celfyddid Gain; Gwyn Owen, MA mewn Perfformio, gan arbenigo ar y trwmped; Lowri Thomas, astudio fel fiolydd uwchraddedig.

Eisteddfodau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen yn cefnogi tua 70 o Eisteddfodau bob blwyddyn, Y prif fuddiolwyr o dan y pennawd hwn yw:

  • Eisteddfod Genedlaethol Cymru (£18,000 y flwyddyn)
  • Eisteddfod Ryngwladol Llangollen (£10,000 y flwyddyn)
  • Eisteddfodau James Pantyfedwen (Pontrhydfendigaid, Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan yn derbyn rhwng £8,000 a £10,000 y flwyddyn)
  • Eisteddfodau'r Urdd, yn sirol a chenedlaethol (£13,200 y flwyddyn)

Yn ychwanegol at yr uchod, mae'r Ymddiriedolaeth yn cefnogi tua 60 o Eisteddfodau 'lleol' yn flynyddol trwy ddarparu grantiau o hyd at £500 yr un i'w cynorthwyo gyda'r gost o dalu gwobrau ariannol. Gellir gweld canllawiau ymgeisio yma.

Darlith Flynyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1961, sefydlwyd cyfres o ddarlithoedd ar bynciau crefyddol gan sylfaenydd y Gronfa, a’u galw’n Ddarlithoedd DJ James. Mae'r Ymddiriedolwyr wedi parhau'r traddodiad hwn er bod y Ddarlith wedi ei thraddodi bob dwy flynedd am gyfnod. Traddodwyd y Ddarlith yn Gymraeg a'r Saesneg am yn ail, a defnyddiwyd safleoedd prifysgol yn y Gogledd a'r De ar gyfer yr achlysuron hyn.

Ers 2015, mae Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen wedi cydweithio gyda Chanolfan Ffydd a Diwylliant Morlan yn Aberystwyth i drefnu’r ddarlith yn flynyddol. Fe’i gelwir yn 'Ddarlith Morlan-Pantyfedwen' a’r bwriad yw ei chynnal yn flynyddol am yn ail yn y Gymraeg a'r Saesneg, a hynny yng Nghanolfan Morlan.

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. http://www.jamespantyfedwen.cymru
  2. http://www.jamespantyfedwen.cymru/beneficiaries/students.html