Nanteos
![]() | |
Math |
gwesty mewn plasty gwledig, ystad ![]() |
---|---|
| |
Cysylltir gyda |
Y Greal Santaidd ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad |
Llanfarian ![]() |
Sir |
Ceredigion ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
52.3882°N 4.0291°W ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth |
William Edward Powell, William Powell ![]() |
Statws treftadaeth |
adeilad rhestredig Gradd I ![]() |
Manylion | |
Plasdy yng nghymuned Llanfarian ger Aberystwyth, Ceredigion yw Nanteos. Fe'i adeiladwyd yn yr arddull Newydd-Glasurol gan deulu'r Poweliaid yn y 18g.
Cysylltwyd Y Greal Santaidd â phlasdy Nanteos. Roedd llestr yno a elwid wrth yr enw "Cwpan Nanteos". Dywedid mai hwn oedd y Greal ei hun, wedi ei gludo o Ynys Wydrin i Abaty Ystrad Fflur ac oddi yna i Nanteos yn sgîl diddymu'r mynachlogydd yn 1536. Yn ôl y chwedl, daeth Joseff o Arimathea o Balesteina i Ynys Wydrin gyda'r llestr arbennig. Credid ei bod yn iachau afiechydon, yn enwedig afiechyd gwaed.
Ymddengys nad oes sail i honiad George Powell fod Wagner wedi aros yn Nanteos a chael ei ysbrydoli i gyfansoddi ei opera Parsifal ar ôl yfed o'r gwpan. Roedd Powell yn hoff iawn o waith Wagner ond ymwelodd y cyfansoddwr â gwledydd Prydain yn 1855, tua deng mlynedd cyn iddo ysgrifennu Parsifal.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, d.g. Nanteos.