Cwpan Nanteos

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cwpan Nanteos yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 2016

Dysgl masarn (math o lestr yfed) o'r Oesoedd Canol a gedwir am flynyddoedd lawer ym mhlasy Nanteos, Llanfarian ger Aberystwyth, Ceredigion, yw Cwpan Nanteos.

Nid yw'n hysbys ymhle a phryd y gwnaed y Cwpan, ond ymddengys ei fod yn dod o Abaty Ystrad Fflur yn ystod Diddymu'r Mynachlogydd a'i fod yn cael ei drosglwyddo i feddiant teulu Powell, perchnogion Nanteos.

Mae'r Cwpan yn llestr pren caled (llwyfen lydanddail yn ôl pob tebyg) heb ddolenni, gyda throed wastad eang. Yn wreiddiol, byddai wedi mesur tua 10 cm o uchder a 12 cm ar draws, er ei fod wedi cael ei nifrodi'n helaeth dros y blynyddoedd ac mae llai na hanner y peth yn weddill.

Yn unol â'r traddodiad, Cwpan Nanteos yw'r Greal Sanctaidd ei hun, y Cwpan yr yfodd Crist a'i ddisgyblion ohono yn y Swper Olaf. Ers y 19g honnir bod grym iachau goruwchnaturiol yn perthyn i'r Cwpan.

Ym mis Gorffennaf 2014, tra oedd ar fenthyg, cafodd y Cwpan ei ddwyn o dŷ yn Weston under Penyard, Swydd Henffordd, Lloegr.[1] Fe'i adferwyd ym mis Mehefin 2015.[2] Ar ôl hynny, roedd y perchnogion yn ei roi yng ngofal Llyfrgell Genedlaethol Cymru, lle aeth ar arddangosfa gyhoeddus barhaol ym mis Mehefin 2016.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]