Weston under Penyard
| Math | pentref, plwyf sifil |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Swydd Henffordd (Awdurdod unedol) |
| Poblogaeth | 1,036, 834, 1,007 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Swydd Henffordd (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 51.907°N 2.538°W |
| Cod SYG | E04000906 |
![]() | |
Pentref a phlwyf sifil yn Swydd Henffordd, Gorllewin Canolbarth Lloegr, ydy Weston under Penyard.[1] Gorwedd ar y ffordd A40 tua dwy filltir i'r dwyrain o Rhosan-ar-Wy. Daw enw'r pentref o'r ffaith ei fod yn gorwedd wrth droed allt o'r enw Penyard.
Yng Nghyfrifiad 2021 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 1,037.[2]
Mae gan Eglwys St Lawrens glochdy uchel a godwyd yn y 14g; cafodd ei daro gan fellt yn 1750.
I'r dwyrain o'r pentref dan dir amaethyddol ceir safle hen dref Rufeinig Ariconium a gysylltir â'r deyrnas Gymreig gynnar Erging. Credir iddi fod yn "brifddinas" Erging yn y cyfnod ôl-Rufeinig. Ymddengys fod yr enw Lladin Ariconium yn deillio o ffurf Frythoneg ar yr enw Erging, ond mae'n werth sylwi bod dinas o'r un enw yn nhalaith Rufeinig Galatia, yn Asia Leiaf.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 31 Ionawr 2025
- ↑ City Population; adalwyd 31 Ionawr 2025
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Y pentref ar wefan Cyngor Swydd Henffordd Archifwyd 2007-09-27 yn y Peiriant Wayback
