Glastonbury

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Ynys Wydrin)
Jump to navigation Jump to search
Cyfesurynnau: 51°08′55″N 2°42′50″W / 51.1485°N 2.7140°W / 51.1485; -2.7140
Glastonbury
Glastonbury (part of) from the tor arp.jpg
Glastonbury is located in Y Deyrnas Unedig
Glastonbury

 Glastonbury yn: Y Deyrnas Unedig
Poblogaeth 8,471 (2011)[1]
Swydd Gwlad yr Haf
Rhanbarth
Gwlad Lloegr
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Senedd yr Undeb Ewropeaidd De-orllewin Lloegr
Senedd y DU Wells
Rhestr llefydd: y DU • Lloegr •

Tref a phlwyf sifil yng Ngwlad yr Haf, De-orllewin Lloegr, yw Glastonbury. Yr hen enw Cymraeg ar y lle oedd Ynys Wydrin neu Ynys Wydr[2], efallai oherwydd i'r "Glas" yn yr enw gael ei gam-gyfieithu i olygu "gwydyr".

Gweddillion abaty Glastonbury

Mae Caerdydd 48.9 km i ffwrdd o Glastonbury ac mae Llundain yn 185.8 km. Y ddinas agosaf ydy Wells sy'n 7.2 km i ffwrdd.

Cysylltir Glastonbury a'r chwedl am Joseff o Arimathea yn dwyn y Greal Santaidd i Ynys Brydain, ac a'r chwedlau am y brenin Arthur. Yn 1191, cyhoeddwyd fod mynachod Abaty Glastonbury, wrth ail-adeiladu rhan o'r abaty yn dilyn tân yn 1184, wedi cael hyd i fedd gyda thair arch ynddo. Ar un arch roedd croes o blwm gyda'r arysgrif :

HIC JACET SEPULTUS INCLITUS REX ARTURIUS IN INSULA AVALONIA

"Yma y gorwedd yr enwog frenin Arthur yn Ynys Afallon".

Yn yr arch roedd gweddillion gŵr 2.40 medr o daldra. Y farn gyffredinol ymysg ysgolheigion yw mai twyll oedd hyn.

Twr yr Ynys Wydrin

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. City Population; adalwyd 10 Chwefror 2018
  2. Hanes Cymru gan John Davies; Gwasg Penguin; 1990; tud 205.
Somerset shield.png Eginyn erthygl sydd uchod am Wlad yr Haf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.