Parsifal

Oddi ar Wicipedia
Parsifal
Enghraifft o'r canlynolgwaith drama-gerdd Edit this on Wikidata
IaithAlmaeneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi19 g Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1877 Edit this on Wikidata
Genreopera Edit this on Wikidata
CymeriadauParsifal, Kundry, Gurnemanz, Amfortas, Klingsor, Titurel, Dau Farchog y Greal, Pedwar yswain, Chwe morwyn flodau, Llais oddi fry, Corws Edit this on Wikidata
LibretyddRichard Wagner Edit this on Wikidata
Lleoliad y perff. 1afBayreuth Festival Theatre Edit this on Wikidata
Dyddiad y perff. 1af26 Gorffennaf 1882 Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata
CyfansoddwrRichard Wagner Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Parsifal (WWV 111) yn opera mewn tair act gan y cyfansoddwr Almaenig Richard Wagner.[1] Mae wedi'i seilio'n fras ar Parzival gan Wolfram von Eschenbach, cerdd epig o'r 13g am y marchog Arthuraidd Parzival (Peredur) a'i gyrch am y Greal Santaidd.[2]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Cafodd Wagner y syniad am y gwaith ym mis Ebrill 1857, ond ni wnaeth ei orffen tan 25 mlynedd yn ddiweddarach. Hon oedd ei opera olaf i'w cwblhau, ac wrth ei chyfansoddi manteisiodd ar acwsteg benodol ei dŷ opera y Bayreuth Festspielhaus. Cynhyrchwyd Parsifal gyntaf ar gyfer ail Ŵyl Bayreuth ym 1882. Cynhaliodd Gŵyl Bayreuth fonopoli ar gynyrchiadau Parsifal tan 1903, pan berfformiwyd hi gan yr Opera Metropolitan yn Efrog Newydd.

Disgrifiodd Wagner Parsifal nid fel opera, ond fel Ein Bühnenweihfestspiel ("Drama Gŵyl ar gyfer Cysegru'r Llwyfan"). Yn Bayreuth mae traddodiad wedi codi nad yw cynulleidfaoedd yn cymeradwyo ar ddiwedd yr act gyntaf.[3]

Rolau[golygu | golygu cod]

Emil Scaria fel Gurnemanz, 1883
Hermann Winkelmann fel Parsifal gyda morwynion blodau, 1882
Rôl Llais Cast y Premier, 26 Gorffennaf 1882
(Arweinydd: Hermann Levi)[4]
Cast premier y Met, 24 Rhagfyr 1903
(Arweinydd: Alfred Hertz)[5]
Parsifal tenor Hermann Winkelmann Alois Burgstaller
Kundry soprano
neu fezzo-soprano
Amalie Materna Milka Ternina
Gurnemanz, Marchog y Greal gyda gwasanaeth maith bas Emil Scaria Robert Blass
Amfortas, arweinydd Teyrnas y Greal baritone Theodor Reichmann Anton van Rooy
Klingsor, dewin drwg bas-bariton Karl Hill Otto Goritz
Titurel, tad Amfortas bass August Kindermann Marcel Journet
Dau Farchog y Greal tenor,
bas
Anton Fuchs
Eugen Stumpf
Julius Bayer
Adolph Mühlmann
Pedwar yswain soprano,
alto,
dau denor
Hermine Galfy
Mathilde Keil
Max Mikorey
Adolf von Hübbenet
Katherine Moran
Paula Braendle
Albert Reiss
Willy Harden
Chwe morwyn flodau tair soprano,
tair contralto
neu chwe soprano
Pauline Horson
Johanna Meta
Carrie Pringle
Johanna André
Hermine Galfy
Luise Belce
Isabelle Bouton
Ernesta Delsarta
Miss Förnsen
Elsa Harris
Lillian Heidelbach
Marcia Van Dresser
Llais oddi fry, Eine Stimme contralto Sophie Dompierre Louise Homer
Marchogion y greal, bechgyn, morynion blodau

Crynodeb[golygu | golygu cod]

ACT I[golygu | golygu cod]

Lleoliad:Ger cysegr y Greal Sanctaidd

Mae'r hen farchog Gurnemanz a dau sentri yn deffro ac yn perfformio eu gweddïau boreol, tra bod marchogion eraill yn paratoi baddon ar gyfer eu harweinydd Amfortas, sy'n dioddef o glwyf anwelladwy.

Yn sydyn, mae Kundry - dynes ddirgel, oesol sy'n gwasanaethu fel negesydd y Greal - yn ymddangos. Mae hi wedi dod â meddyginiaeth ar gyfer Amfortas.

Mae'r marchogion yn cario'r arweinydd i mewn. Mae'n myfyrio ar broffwydoliaeth sy'n sôn am ei iachawdwriaeth gan “ffŵl pur, wedi'i oleuo gan dosturi,” yna mae'n cael ei ddwyn i ffwrdd.

Pan fydd yr ysweiniaid yn holi am Klingsor, dewin sy'n ceisio dinistrio marchogion y Greal, mae Gurnemanz yn adrodd hanes y modd clwyfwyd Amfortas. Rhoddwyd Y Greal Sanctaidd - y cwpan y gwnaeth Crist yfed ohono yn y Swper Olaf - a'r waywffon a dyllodd ei gorff ar y groes, yng ngofal Titurel, tad Amfortas, a gynullodd gwmni o farchogion i warchod y creiriau. Ceisiodd Klingsor, a oedd am ymuno â'r frawdoliaeth, oresgyn ei feddyliau pechadurus trwy ysbaddu ei hun, ond gwrthodwyd ef gan y frawdoliaeth. Gan fynnu dial am gael ei wrthod, adeiladodd gastell yr ochr arall i'r mynyddoedd gyda gardd hud yn llawn morynion blodau sy'n ceisio denu'r marchogion i'w harwain i ffwrdd o ffordd cyfiawnder. Aeth Amfortas ati i drechu Klingsor, ond cafodd ei hun ei hudo gan ddynes ofnadwy o hardd. Fe wnaeth Klingsor ddwyn y waywffon Sanctaidd o Amfortas a'i ddefnyddio i'w drywanu. Dim ond yr ieuenctid diniwed y mae'r broffwydoliaeth wedi sôn amdano y gellir iacháu'r clwyf.

Yn sydyn, mae alarch yn plymio i'r llawr, wedi'i daro'n farw gan saeth. Mae'r marchogion yn llusgo dyn ifanc i mewn, sy'n ymfalchïo yn ei sgiliau saethyddiaeth. Mae ganddo gywilydd pan mae Gurnemanz yn ei geryddu, ond ni all egluro ei weithred dreisgar na hyd yn oed nodi ei enw. Y cyfan y mae’n ei gofio yw ei fam, Herzeleide, neu “Calon Drist.” Mae Kundry yn adrodd hanes y bachgen: Bu farw ei dad mewn brwydr, a magodd ei fam ef mewn coedwig, ond erbyn hyn mae hi hefyd wedi marw. Mae Gurnemanz yn arwain y llanc dienw i wledd y Greal, gan feddwl tybed ai ef yw'r un i gyflawni'r broffwydoliaeth.

Mae'r marchogion yn ymgynnull yn Neuadd y Greal. Mae Titurel yn dweud wrth Amfortas i ddadorchuddio'r Greal i roi nerth i'r frawdoliaeth, ond mae Amfortas yn gwrthod gan fod gweld y greal yn cynyddu ei boen. Mae Titurel yn gorchymyn i'r ysweiniaid i'w dadorchuddio. Mae'r cwpan yn taflu ei llewyrch o amgylch y neuadd. Mae'r ieuenctid dienw yn gwylio mewn syndod ond yn deall dim. Daw'r seremoni i ben, mae Gurnemanz, yn siomedig ac yn ddig am ddiffyg ymateb y bachgen, yn ei yrru i ffwrdd wrth i lais nas anweladwy ailadrodd y broffwydoliaeth.[6]

ACT II[golygu | golygu cod]

Yn ei gaer felltigedig, mae Klingsor, yn gwysio Kundry - sydd, dan ei swyn, yn cael ei gorfodi i arwain bodolaeth ddwbl - ac yn ei gorchymyn i hudo’r ffŵl ifanc. Wedi sicrhau'r waywffon, mae Klingsor bellach yn ceisio dinistrio'r gŵr ifanc, y mae'n gwybod gall achub marchogion y Greal. Mae Kundry yn protestio mewn ofer

Mae’r llanc dienw yn mynd i mewn i ardd hudolus Klingsor. Mae'r morwynion blodau yn erfyn am ei gariad, ond mae'n eu gwrthsefyll. Mae'r merched yn tynnu'n ôl wrth i Kundry, a drawsnewidiwyd yn fenyw ifanc hardd, ymddangos ac annerch y bachgen wrth ei enw - Parsifal. Mae'n sylweddoli bod ei fam unwaith wedi ei alw wrth yr enw mewn breuddwyd. Mae Kundry yn dechrau ei hudo trwy ddatgelu atgofion am ei blentyndod ac o’r diwedd yn ei gusanu. Mae Parsifal yn sydyn yn teimlo poen Amfortas ac yn deall tosturi. Mae'n sylweddoli mai Kundry a achosodd gwymp Amfortas ac mai ei genhadaeth yw achub brawdgarwch y Greal. Yn synnu at ei drawsnewidiad, mae Kundry yn ceisio ennyn trueni Parsifal. Mae hi'n dweud wrtho am y felltith sy'n ei chondemnio i fyw bywyd diderfyn o aileni parhaus ers iddi chwerthin am Grist ar y groes. Ond mae Parsifal yn ei gwrthsefyll. Mae hi'n ei felltithio i grwydro'n anobeithiol i chwilio am Amfortas a'r Greal ac yn galw ar Klingsor am help. Mae’r Klingsor yn ymddangos ac yn hyrddio’r waywffon Sanctaidd at Parsifal, sy’n ei ddal yn wyrthiol, gan beri i deyrnas Klingsor i ddifrodi.[7]

ACT III[golygu | golygu cod]

Mae Gurnemanz, sydd bellach yn hen iawn ac yn byw fel meudwy ger cysegr y Greal, yn dod o hyd i Kundry edifarhaus yn y goedwig ac yn ei deffro o gwsg tebyg i farwolaeth. Mae marchog anhysbys yn agosáu yn cludo'r waywffon Sanctaidd. Yn fuan y mae Gurnemanz yn ei adnabod fel Parsifal.. Mae Parsifal yn disgrifio ei flynyddoedd o grwydro, gan geisio dod o hyd i'w ffordd yn ôl i Amfortas a'r Greal. Dywed Gurnemanz wrtho ei fod wedi dod ar yr adeg gywir; mae Amfortas, yn hiraethu am farwolaeth, wedi gwrthod dadorchuddio’r Greal. Mae'r frawdoliaeth yn dioddef, ac mae Titurel wedi marw. Mae Kundry yn golchi traed Parsifal, ac mae Gurnemanz yn ei fendithio ac yn ei gyhoeddi’n frenin. Fel ei dasg gyntaf mae Parsifal yn bedyddio Kundry. Mae'n cael ei daro gan harddwch natur o'u cwmpas, ac mae Gurnemanz yn egluro mai dyma wyrth Dydd Gwener y Groglith. Mae sŵn clychau yn cyhoeddi angladd Titurel, ac mae'r tri yn gwneud eu ffordd i'r cysegr.

Mae marchogion yn cludo Amfortas, y Greal ac arch Titurel i mewn i Neuadd y Greal. Nid yw Amfortas yn gallu cyflawni'r ddefod. Mae'n annog y marchogion i'w ladd ac felly'n dod â'i ing i ben, - pan mae Parsifal yn ymddangos yn sydyn. Mae Parsifal yn cyffwrdd ystlys Amfortas gyda'r waywffon sanctaidd ac yn iacháu'r clwyf. Gan ddadorchuddio’r Greal, mae’n derbyn gwrogaeth y marchogion fel eu prynwr a’u brenin ac yn eu bendithio. Mae aduniad y Greal a'r waywffon yn bendithio ac adnewyddu'r gymuned.[8]

Gwrth Semitiaeth[golygu | golygu cod]

Mae rhai awduron yn honni bod yr opera yn hyrwyddo gwrth-semitiaeth. Mae rhai yn awgrymu bod Parsifal yn cael ei gynnig fel yr arwr "gwaed pur" (h.y. Ariaidd) sy'n goresgyn Klingsor, sy'n cael ei ystyried yn ystrydeb Iddewig, yn enwedig gan ei fod yn gwrthwynebu Marchogion lled Gristnogol y Greal. Mae dadleuon o'r fath yn destun dadl fawr, gan nad oes unrhyw beth penodol yn y libreto i'w cefnogi. Er nad oes dim gellir dweud syn benodol wrth semitaidd yn yr opera does dim amheuaeth bod Wagner yn hynod wrth Iddewig.

Arweinydd y perfformiad cyntaf oedd Hermann Levi, arweinydd y llys yn Opera Munich. Roedd Wagner yn gwrthwynebu i Parsifal gael ei arwain gan Iddew. Awgrymodd Wagner yn gyntaf y dylai Lefi gael tröedigaeth i Gristnogaeth, ond gwrthododd Lefi ei wneud. Yna ysgrifennodd Wagner at y Brenin Ludwig ei fod wedi penderfynu derbyn Lefi. Er gwaethaf y ffaith ei fod yn honni iddo dderbyn cwynion y dylai "o bob darn, y gwaith mwyaf Cristnogol hwn" gael ei arwain gan Iddew. Mynegodd y Brenin ei foddhad yn hyn o beth. Dywedodd fod "bodau dynol i gyd yn frodyr yn y bôn". Ysgrifennodd Wagner at y Brenin ei fod yn "ystyried y genedl Iddewig fel gelyn ganedig dynoliaeth bur a phopeth sy'n fonheddig amdani".[9]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Parsifal | Summary, Characters, Background, & Facts". Encyclopedia Britannica. Cyrchwyd 2020-10-05.
  2. "Parzival | epic poem by Wolfram von Eschenbach". Encyclopedia Britannica. Cyrchwyd 2020-10-05.
  3. "Parsifal - Richard Wagner - Opera - OperaFolio.com". www.operafolio.com. Cyrchwyd 2020-10-05.
  4. Casaglia, Gherardo (2005). "Parsifal, 26 July 1882". L'Almanacco di Gherardo Casaglia Nodyn:In lang.
  5. Parsifal, 24 Rhagfyr 1903, Manylion perfformiad y Met
  6. "Parsifal". www.metopera.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-10-05.
  7. "Uncovering the Grail". Classic FM. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-24. Cyrchwyd 2020-10-05.
  8. "Synopsis of Wagner's 'Parsifal' -- the story of the opera". www.monsalvat.no. Cyrchwyd 2020-10-05.
  9. John Deathridge (2008) Wagner Beyond Good and Evil. University of California Press. ISBN 9780520254534