William Edward Powell

Oddi ar Wicipedia
William Edward Powell
Ganwyd16 Chwefror 1788 Edit this on Wikidata
Bu farw10 Ebrill 1854 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, tirfeddiannwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 10fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 5ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 6ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 7fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 8fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 9fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol, Tori Edit this on Wikidata
PlantWilliam Thomas Rowland Powell Edit this on Wikidata
Nanteos

Roedd William Edward Powell (16 Chwefror 1788 - 10 Ebrill 1854) yn dirfeddiannwr, yn fonheddwr, yn wleidydd Torïaidd Cymreig ac yn Aelod Seneddol Ceredigion o 1816 i 1854.[1]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Roedd Powell yn fab i Thomas Powell, Nanteos ac Elinor merch Edward Maurice Corbet Ynysmaengwyn, Tywyn, ei wraig.

Cafodd ei addysgu yn Ysgol Westminster a Choleg Eglwys Crist, Rhydychen

Bu'n briod ddwywaith: priododd ei wraig gyntaf Laura Edwyna merch James Sackville Tufton Phelp o Coston House, Swydd Gaerlŷr ym 1810 a chawsant ddau fab. Bu Laura hi farw ym 1822. Ailbriododd Powell ym 1841 â Harriet Dell, merch Henry Hutton o Cherry Willingham, Swydd Lincoln a gweddw George Ackers o Moreton Hall, Swydd Gaer, ni chawsant blant.[2]

Bu mab hynaf cyfreithlon ac etifedd William, William Thomas Rowland Powell, yn AS Ceredigion o 1859 hyd 1865.

Yn ogystal â bod yn briod ddwywaith bu ganddo feistres hir dymor hefyd, perthynas a oedd yn rhychwantu'r ddwy briodas, sef Miss Mary Selina Genet, Stryd Britannia, Llundain. Bu iddynt bedwar o blant gyda William Edward Powell yn cael ei enwi'n gyhoeddus fel y tad ar eu holl gofnodion bedydd.[3]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Bu farw Thomas, tad William Powell ym 1797, pan oedd William yn 11 mlwydd oed. Gosodwyd Nanteos ar rent ac aeth y teulu i fyw i Ffrainc; wedi etifeddu'r ystâd ar ei 21ain pen blwydd canfuwyd bod y tenantiaid wedi gadael yr ystâd mewn anrhaith a segurdod [4]. Prif yrfa Powell fu ail adfer sefyllfa arianol bregus yr ystâd i'w hen ogoniant[5].

Ymrestrodd fel llumanwr gyda Gwarchodlu'r Dragŵn ym 1811 gan ymadael a'r lluoedd sefydlog ym 1822. Fe fu yn Uwchgapten ym milisia Sir Aberteifi o 1811 gan gael ei ddyrchafu yn Gyrnol ym 1816 a Chadlywydd ym 1826 swydd bu'n dal hyd ei farwolaeth.

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod]

Cafodd ei ethol i'r Senedd ym 1816 ar farwolaeth Thomas Johnes; bu Pryse Pryse hefyd yn canfasio ar gyfer y sedd ond tynnodd allan o'r ras ar addewid gan Powell a'i gefnogwyr y byddent yn ei gefnogi ar gyfer sedd Bwrdeistref Aberteifi. Cadwodd ei sedd am weddill ei oes yn gwbl ddiwrthwynebiad. Ni fu ei yrfa Seneddol yn un llachar, yr oedd yn pleidleisio gyda'r llywodraeth ar bron pob mesur heb gyfrannu nemor dim i ddadleuon ar lawr y Tŷ.

Bu'n Siryf Sir Aberteifi ym 1810 ac yn Arglwydd Raglaw o 1817 hyd ei farwolaeth ym 1854.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Powell,William Edward, History of Parliament online [1] adalwyd 17 Mai 2015
  2. Y Bywgraffiadur ar-lein POWELL (TEULU), Nanteos [2] adalwyd 16 mai 2015
  3. Nanteos - the History of the House [3] Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 17 Mai 2015
  4. MSS Nanteos yn LlGC
  5. Letter from Aberystwyth The Nanteos Racehorses [4] adalwyd 17 mai 2015
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Thomas Johnes
Aelod Seneddol Ceredigion
18161854
Olynydd:
Iarll Lisburne
Teitlau Anrhydeddus
Rhagflaenydd:
Thomas Johnes
Arglwydd Raglaw Ceredigion
1817 - 1854
Olynydd:
Thomas Lloyd