Andras Millward

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Andras Millward
Ganwyd 1966 Edit this on Wikidata
Bu farw Hydref 2016 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Awdur Cymreig toreithiog oedd Andras Millward (1966 – Hydref 2016).[1] Roedd yn nodedig am y nofelau Deltanet, Prosiect Nofa ac Un Cythraul yn Ormod (Y Lolfa, 1996) [2] sy'n cael ei chydnabod fel un o gampweithiau ffuglennol yr 1990au.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe'i magwyd yn Aberystwyth yn fab i'r darlithydd Cymraeg Tedi Millward a Silvia Hart. Ei chwaer yw'r gantores Llio Millward. Roedd yn byw ym Mryste ac yn gweithio yn y maes technoleg gwybodaeth. Roedd e hefyd yn hyfforddwr ar gyfer crefft ymladd Wing Chun.[3]

Bu farw yn Hydref 2016 yn 50 oed. Roedd ganddo ddwy ferch. Dywedodd yr awdures Elin Llwyd Morgan ei fod yn "berson addfwyn iawn, ac roedd ganddo hiwmor tawel" a fod "ei gyfraniad yn un pwysig achos roedd o’n ysgrifennu mewn genre sy’n eithaf anodd yn y Gymraeg".

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfres Gwaed Oer Corff, Y (llyfr).jpg

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Teyrnged i’r awdur Andras Millward , Golwg360, 31 Hydref 2016.
  2. Gwefan Gwales; adalwyd 8 Chwefror 2015
  3.  Yatedo - Andras Millward. Adalwyd ar 23 Awst 2016.


Planned section.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.