Edward Millward

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Edward Millward
Ganwyd Edward Glynne Millward Edit this on Wikidata
Mehefin 1930 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth Gwleidydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Gwleidydd, academydd a chenedlaetholwr yw Edward "Tedi" Glynne Millward (ganed Mehefin 1930).

Astudiodd Millward yn Ysgol Uwchradd Cathays yng Nghaerdydd ac yna Coleg Prifysgol De Cymru, cyn dod yn ddarlithydd.[1]

Daeth yn weithgar ym Mhlaid Cymru. Safodd Millward dros y blaid ddwywaith yn Sir Aberteifi yn etholiad cyffredinol 1966 a Sir Drefaldwyn ym 1970, ond ni chafodd ei ethol.[1] Yn 1966, fe'i hetholwyd yn Is-Lywydd Plaid Cymru, [2] ond fe synnodd lawer pan safodd i lawr yn 1968,[3] er mwyn dysgu Cymraeg i'r Tywysog Charles cyn iddo gael ei arwisgo fel Tywysog Cymru. Dysgodd y tywysog dros naw wythnos ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth.[4]

Wedi hynny, gwasanaethodd Millward fel llefarydd Plaid Cymru ar bolisi dŵr, ac yn y rôl honno roedd yn argymell gweithredu uniongyrchol di-drais yn erbyn adeiladu cronfeydd dŵr newydd.[5] Yn 1976, fe'i enllibiwyd gan Willie Hamilton, a honnodd ei fod wedi bod yn gysylltiedig â gweithgareddau terfysgol wrth hyfforddi Charles; derbyniodd £1000 mewn setliad. [6]

Wedi hynny, canolbwyntiodd Millward ar ei yrfa fel academydd, gan ddarlithio yn y Gymraeg yn Aberystwyth. Yn y 1980au cynnar, cefnogodd ymgyrch lwyddiannus Gwynfor Evans am orsaf deledu Gymraeg.[7] Yn 2003, lansiodd ymgyrch ar gyfer canolfan i goffáu Dafydd ap Gwilym.[8]

Cyhoeddodd ei hunangofiant Taith Rhyw Gymro (Gwasg Gomer) yn 2015.

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd yn briod a Silvia Hart a cawsant ddau o blant, Andras Millward a Llio Millward.[9]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 The Times Guide to the House of Commons 1970, p.164
  2. Knut Diekmann, Die Nationalistische Bewegung in Wales, p.585
  3. John Humphries, Freedom fighters: Wales's forgotten 'war', 1963-1993, p.96
  4. "Charles termed serious, hard-working student", Leader-Post, 24 Mai 1969, p.1
  5. Alan Butt Philip, The Welsh Question, p.122
  6. "Hamilton to pay £1000 for libel", Glasgow Herald, 12 Chwefror 1976, p.2
  7. Susan Loth, "Minor languages dying", Lewiston Tribune, 25 Mehefin 1981, p.4A
  8. "Memorial plan to honour poet after 600 years", Western Mail, 13 Mehefin 2003
  9. 'Mae Dad yn siomedig na wnaeth y Tywysog hybu'r iaith' , BBC Cymru Fyw, 4 Gorffennaf 2019.
Swyddi gwleidyddol pleidiol
Rhagflaenydd:
Chris Rees
Llywydd Plaid Cymru
19661968
Olynydd:
Phil Williams