The Crown (cyfres deledu)
| The Crown | |
|---|---|
| Genre | Drama hanesyddol |
| Crëwyd gan | Peter Morgan |
| Serennu | Claire Foy Matt Smith Vanessa Kirby Eileen Atkins Jeremy Northam Victoria Hamilton Ben Miles Jared Harris John Lithgow Alex Jennings Lia Williams Anton Lesser Matthew Goode |
| Cyfansoddwr y thema | Hans Zimmer |
| Gwlad/gwladwriaeth | Y Deyrnas Unedig Yr Unol Daleithiau[1][2] |
| Iaith/ieithoedd | Saesneg |
| Nifer cyfresi | 5 |
| Nifer penodau | 50 |
| Cynhyrchiad | |
| Amser rhedeg | 54-61 munud |
| Darllediad | |
| Sianel wreiddiol | Netflix |
| Rhediad cyntaf yn | 4 Tachwedd 2016 - presennol |
| Dolenni allanol | |
| Gwefan swyddogol | |
Mae The Crown yn ddrama hanesyddol ar ffurf cyfres deledu a grëwyd ac ysgrifennwyd yn bennaf gan Peter Morgan a chynhyrchwyd gan Left Bank Pictures a Sony Pictures Television ar gyfer Netflix. Stori fywgraffyddol yw'r rhaglen am deyrnasiad Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig.
Canolbwyntia'r gyfres gyntaf ar y cyfnod o'i phriodas i'r Tywysog Philip, Dug Caeredin yn 1947 i chwaliad dyweddïad ei chwaer y Dywysoges Margaret i Peter Townsend yn 1955. Yn yr ail gyfres, y canolbwynt i ddechrau yw Argyfwng y Suez yn 1956 ac wedyn ymddeoliad trydydd Prif Weinidog y Frenhines, Harold Macmillan, yn 1963 a daw'r gyfres i ben gyda genedigaeth y Tywysog Edward yn 1964. Parheuiff y drydedd gyfres o 1964 yn canolbwyntio ar dau dymor Harold Wilson fel y Prif Weinidog tan 1976, tra bydd y bedwaredd gyfres yn gweld prifweinidogaeth Margaret Thatcher a ffocws ar Diana, Tywysoges Cymru.
Portreada Claire Foy y Frenhines yn y ddwy gyfres gyntaf, gyda Matt Smith fel y Tywysog Philip, a Vanessa Kirby fel y Dywysoges Margaret. Ar gyfer y drydedd a'r bedwaredd gyfresi, cymer Olivia Colman y rôl fel y Frenhines, gyda Tobias Menzies fel y Tywysog Philip, a Helena Bonham Carter fel y Dywysoges Margaret.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Netflix plans original UK drama about the Queen". BBC News Online. 23 Mai 2014.
- ↑ Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 740: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).