Gefeilldref

Oddi ar Wicipedia
Arwydd groeso Aberystwyth gyda'r gefeilldrefi
Arwyddbost yn enwi gefeilldrefi Opole, Gwlad Pwyl

Mae gefeillio neu gefeilldrefi ceir hefyd term mwy penodol sef, trefeillio [1] yn drefniant ar gyswllt symbolaidd a sefydlwyd i ddatblygu gwleidyddol, economaidd a diwylliannol agos rhwng trefi neu ranbarthau mewn dwy neu fwy o wledydd gwahanol. Ceir weithiau enghreifftiau o gefeillio gan drefi fewn yr un wladwriaeth, megis rhwng trefi Dwyrain a Gorllewin yr Almaen wedi ailuno'r wlad yn 1989.

Daw'r gair Cymraeg gefell o'r Lladin gemellus sy'n rhoi i ni wraidd y gair Llydaweg "gevel" a'r Ffrangeg "jumeau", gwraidd jumelage y gair Ffrangeg am gefeillio.

Seiliau Hanesyddol[golygu | golygu cod]

“A twinning is the coming together of two communities seeking, in this way, to take action with a European perspective and with the aim of facing their problems and developing between themselves closer and closer ties of friendship”.

Dyna oedd diffiniad gefeillio gan Jean Bareth, un o sefydlwyr Cyngor Bwrdeistrefi a Rhanbarthau Ewrop (CEMR) yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. Yn y ffordd yma, adnabodd y prif werthoedd mae gefeillio yn ei gynnig: cyfeillgarwch, cydweithio ac ymwybyddiaeth gyffredin rhwng pobloedd Ewrop.[2]

Defnyddir y term twin town yn Saesneg Prydain, ond sister towns yn UDA. Mae ieithoedd eraill yn defnyddio un o'r ddau derm yma yn ei hiaith frodorol ond ceir Partnerschaft yn yr Almaeneg a therm tebyg yn Iseldireg.

Mathau[golygu | golygu cod]

Murlun gefeilldrefi München yn Neuadd y Dref

Mae yna wahanol fathau o efeillio, rhwng sefydliadau, cyrff ac ysgolion, y mae eu hundebau wedi'u sefydlu i feithrin cysylltiadau dynol a diwylliannol rhwng y ddau bwnc neu gorff sy'n cyflawni'r gefeillio. Y mwyaf adnabyddus, wedi'i ysbrydoli gan ddelfrydau cyffredin heddwch a lles, yw'r un a sefydlwyd rhwng dwy fwrdeistref o'r un wladwriaeth neu wahanol daleithiau.

Sefydlir gefeillio o'r fath rhwng gwledydd, weithiau hyd yn oed ymhell oddi wrth ei gilydd, ond sydd yn eu straeon neu eu gwreiddiau bwyntiau yn gyffredin i gydnabod eu hunain. At y diben hwn, mae'r gweinyddiaethau trefol yn achos dinasoedd, neu bynciau yn achos mathau eraill o efeillio, yn cynnal cyfres o fentrau gyda'r nod o gryfhau'r berthynas rhwng yr efeilliaid a gwneud eu realiti yn hysbys i'r llall. Ymhlith yr amrywiol fentrau gallwn gynnwys cyfnewidiadau teithio rhwng cydrannau o'r ddwy realiti neu fentrau cyffredin fel cyngherddau, cynadleddau neu arddangosfeydd.

Gwleidyddol[golygu | golygu cod]

Ceir rhai gefeillio rhwng trefi er mwyn gwneud pwynt gwleidyddol. Gwnaed ymdrech yn 2003 i gefeillio tref Preston yn Lloegr gyda dinas Nablus ym Mhalesteina fel arwydd o solidariti dros ei gwrthdaro gydag Israel.[3]

Mewn modd arall, torodd dinas Prâg ei pherthynas gefeillio gyda dinas Petrograd a Mosgo yn Rwsia oherwydd ymgyrch filwrol Rwsia yn Iwcrain.[4]

Masnachol[golygu | golygu cod]

Tra bod elfen o fasnach wedi bod yn rhan o ethos gefeillio erioed, mae'r arfer i ddinasoedd mawrion weld trefeillio fel rhan o strategaeth fasnachol pwrpasol yn rhywbeth mwy diweddar.

Cymru[golygu | golygu cod]

Arwydd tref Greystones, Iwerddon, yn nodi ei fod yn gefeilldref â Chaergybi

Yng Nghymru gweithredir gefeillio rhyng-Ewropeaidd sefydliadaol drwy Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru sy'n aelodau o Gymdeithas Bwrdeisteri a Rhanbarthau Ewrop [5] Ymysg y dinasoedd a threfi Cymru sy'n elwa o gefeillio Ewropeaidd a thrawsbyd mae:

Cymru Llydaw[golygu | golygu cod]

Arwydd tref Caerfyrddin gydag enw'r gefeilldref, Lesneven

Yn ogystal â gefeillio rhwng trefi Cymru â threfi yn Ffrainc a'r Almaen, cafwyd mudiad i datblygu gefeillio rhwng trefi Cymru a Llydaw. Sefydlwyd nifer o'r cyfystlliadau gefeillio rhwng Cymru a Llydaw yn yr 1980au a 1990.[8]

Mae oddeutu 40 tref wedi gefeillio gyda threfi a bwrdeistrefi yn Llydaw.[9] gan gynnwys Aberystwyth a Sant-Brieg, Caernarfon a Landerne, Crymych a Ploveilh, Tregaron a Plouvien a Llandysul a Plogoneg.

Yn 2017 cynhaliwyd gŵyl i ddathlu gefeillio rhwng trefi yng Nghymru a Llydaw a'r berthynas rhwng y ddwy wlad, sef, Gouel Divi 2017: Fete Nationale Galloise, yn ardal Kemper.[8]

Creir pryder fod yr awydd ar gyfer gefeillio rhwng trefi Cymru a Llydaw (a thu hwnt) yn edwino wrth i'r genhedlaeth a sefydlodd y gefeillio yn heneiddio a chenhedlaeth iau heb yr un awydd.[8] Efallai bod y ffaith bod teithio ar draw Ewrop bellach yn rhatach ac yn haws yn rhoi mwy o ddewis i bobl deithio dramor.

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]