Gefell

Oddi ar Wicipedia
Efeilliaid monosygotaidd.
Efeilliaid o Landderfel yn godro. Ffotograff gan Geoff Charles (1959).

Un o ddau epil yw gefell (lluosog: gefeilliaid), sy'n ganlyniad o'r un beichiogrwydd; fel arfer caiff gefeilliaid eu geni yn agos iawn at eu gilydd. Gallant fod yr un rhyw, neu o wahanol ryw. Ceir gefeilliaid monosygotaidd (monozygotic/MZ, hefyd: "gefeilliaid unwy", "gefeilliaid unfath" a "gefeilliaid un ffunud") a gefeilliaid deusygotaidd (dizygotic/DZ, hefyd: "gefeilliaid deuwy", "gefeilliaid brawdol" yn ogysta; â "heb fod yn unfath", "annhebyg" neu "gwahanol").

Diffiniadau[golygu | golygu cod]

Y term cyffredinol pan fydd mwy nag un ffoetws epil yn yr un beichiogrwydd yw genedigaeth luosol.

Ystadegau[golygu | golygu cod]

Yr actores Archentaidd Silvia Legrand a'i chwaer efell.

Amcangyfrwyd fod tua 125 miliwn o efeilliaid dynol yn fyw yn y byd yn 2006[1] (yn fras, tua 1.9% o boblogaeth y byd), gyda dim ond 10 miliwn o efeilliaid monosygotaidd (yn fras, tua 0.2% o boblogaeth y byd, ac 8% o'r holl efeilliaid). Roedd y cyfradd o enedigaethau efeilliaid yn yr Unol Daleithiau yn 2004, 2005 a 2006 fymryn yn uwch na 32 o enedigaethau efeilliaid byw i pob 1,000 o enedigaethau byw.[2]

Oherwydd maint cyfyngedig croth y fam, mae beichiogrwydd lluosol yn llai tebygol o gario i'r tymor llawn na beichiogrwydd sengl, bydd beichiogrwydd lluosol yn para 37 wythnos ar gyfartaledd (3 wythnos yn llai na'r tymor llawn).[3] Gan fod gan genedigaeth gynamserol ganlyniadau iechyd ar gyfer y bananod, caiff genedigaethau efeilliaid yn aml eu trin gyda rhagofalon arbennig.

Y Yoruba, grŵp ethnig mawr Nigeriaidd, sydd â'r cyfradd uchaf o efeillio yn y byd, gyda 45 o efeilliaid i pob 1,000 o enedigaethau byw.[4][5][6] Mae rhai ymchwilwyr wedi honi mai'r cymeriant uchwl o yam, Dioscorea rotundata neu yam gwyn sy'n cynnwys y hormon naturiol phytoestrogen, gallai hyn ysgogi'r ofarïau i ryddhau ŵy o pob ochr.[7][8]

Sygotedd[golygu | golygu cod]

Gefeilliaid yn y groth (14 wythnos).

Sygotedd yw'r term a roddir ar y raddfa o unfathiaeth mewn genom efeilliaid. Mae pum amrywiad cyffredin ar y math o efeillio. Mae'r tri mwyaf cyffredin yn ddeusygotaidd:

  • Efeilliaid gwrywaidd-benywaidd yw'r canlyniad mwyaf cyffredin, sef 50 y cant o'r holl efeilliaid deusygotaidd, a'r grŵp mwyaf cyffredin o efeilliaid.
  • Efeilliaid benywaidd deusygotaidd (a elwir yn chwaerol weithiau)
  • Efeilliaid gwrywaidd deusygotaidd

Mae dau amrywiaeth ar efeilliaid monosygotaidd:

  • Efeilliaid benywaidd monosygotaidd
  • Efeilliaid gwrywaidd monosygotaidd (y lleiaf cyffredin)

Ymysg genedigaethau sengl di-efeilliaid, mae gwryw sengl tua 5% yn fwy cyffredin na benyw sengl. Mae'r raddfa yn amrywio o wlad i wlad, er enghraifft yn yr Unol Daleithiau mae'r gymhareb gwryw/benyw yn 1.05,[9] tra bod y gymhareb yn 1.07 yn yr Eidal.[10] Ond, mae mwy o ragdueddiad i wrywod farw yn y groth, a gan fod y raddfa o farwolaethau yn y groth yn uwch ar gyfer efeilliaid, mae hyn yn arwain i efeilliaid benywaidd fod yn fwy cyffredin na efeilliaid gwrywaidd.

Efeilliaid deusygotaidd[golygu | golygu cod]

Mae efeilliaid deusygotaidd fel arfer yn digwydd pan fydd dwy ŵy wedi eu ffrwythloni yn mewnblannu ym mur y groth ar yr un adeg. Pan gaiff dwy ŵy eu ffrwythlonni'n annibynnol gan dau gell sberm gwahanol, mae efeilliaid deusygotaidd yn digwydd. Mae'r ddwy ŵy, neu'r ofa, yn ffurfio dau sygot, ac felly o dyna lle ddaw'r term deusygotaidd, ac yn llai cyffredin deuofiwlar.

Mae'r tebygolrwydd i efeilliaid deusygotaidd fod yn berchen ar yr un proffil cromosom yn fach iawn, yn yr un modd a unrhyw siblingiaid eraill. Yn yr un modd a siblingiaid sengl, gall siblingiaid deusygotaidd edrych yn debyg, yn enwedig gan eu bod yr un oedran. Ond gallent hefyd edrych yn annhebyg iawn, agllent for yr un rhwy neu o wahanol ryw, yn yr un modd a brodydd a chwiorydd sengl sy'n rhannu rhieni, ac yn digwydd bod o oedran tebyg.

Gefeilliaid Cymru[golygu | golygu cod]

Ymysg y gefeilliaid enwocaf yn llenyddiaeth Cymru oedd Nisien ac Efnisien y ddau frawd tra gwahanol yn stori Branwen ferch Llŷr yn y Mabinogi.

Defnyddir y gair 'gefell' fel gwraidd yr arfer o dau neu fwy o drefi neu ranbarthau yn partneriaethu a rhannu profiadau fel gefeilldrefi.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Judith Oliver (2006). Twin Resources. Economic and Social Research Council. Adalwyd ar 2009-04-21.
  2. Joyce A. Martin, Brady E. Hamilton, Paul D. Sutton, Stephanie J. Ventura, Fay Menacker, Sharon Kirmeyer, T.J. Mathews (7 Ionawr 2009). Births: Final Data for 2006, National Vital Statistics Report, tud. 102 (Tabl 39, tt.83-84). URL
  3. J.P. Elliott (Rhagfyr 2007). Preterm labor in twins and high-order multiples, Cyfrol 34, Rhifyn 4, tud. 599–609  “Unlike singleton gestation where identification of patients at risk for PTL is often difficult, every multiple gestation is at risk for PTL, so all patients can be managed as being at risk”
  4.  Terence Zach; cydawduron: Arun. K Pramanik a Susannah P. Ford (2007-10-02). Multiple Births. WebMD. Adalwyd ar 2008-09-29.
  5.  Genetics or yams in the Land of Twins?. Independent Online (2007-11-12). Adalwyd ar 2008-09-29.
  6.  The Land Of Twins. BBC World Service (2001-06-07). Adalwyd ar 2008-09-29.
  7. O. Bomsel-Helmreich; cydawduron: W. Al Mufti (1995). "The mechanism of monozygosity and double ovulation", gol. Louis G. Keith, Emile Papierik, Donald M. Keith and Barbara Luke: Multiple Pregnancy: Epidemiology, Gestation & Perinatal Outcome. Taylor and Francis, tud. 34. ISBN 1-85070-666-2
  8.  What’s in a yam? Clues to fertility, a student discovers (1999). Adalwyd ar 2008-09-29.
  9.  United States: People. The World Factbook. Central Intelligence Agency (2008-09-04). Adalwyd ar 2008-10-02.
  10.  Italy: People. The World Factbook. Central Intelligence Agency (2008-09-04). Adalwyd ar 2008-10-02.