Luhansk

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Lugansk)
Luhansk
Mathdinas yn Wcráin Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAfon Luhan Edit this on Wikidata
Poblogaeth417,990 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1795 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethManolis Piławow Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, UTC+03:00, EET Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Rostov-ar-Ddon, Lublin, Caerdydd, Saint-Étienne, Daqing, Székesfehérvár, Pernik, Bwrdeistref Vansbro, Belgorod, Voronezh, Nizhniy Tagil, Santos, Moscfa Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Wcreineg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLuhansk urban hromada Edit this on Wikidata
GwladBaner Wcráin Wcráin
Arwynebedd257 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr105 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau48.571708°N 39.297315°E Edit this on Wikidata
Cod post91001–91479, 291001–291479 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethManolis Piławow Edit this on Wikidata
Map

Dinas yn nwyrain Wcráin ger y ffin â Rwsia yn ardal ddadleuol y Donbas yw Luhansk (Wcreineg: Луганськ, yngenir [lʊˈɦɑnʲsʲk]) neu Lugansk (Rwseg: Луганск, yngenir [lʊˈɡansk]; trawnslythrennu: Lwgansc),[1] a elwid gynt yn Voroshilovgrad (Wcreineg a Rwseg: Ворошиловград) yn 1935-1958 a 1970-1990. Ar hyn o bryd, mae Luhansk yn brifddinas a chanolfan weinyddol ar Weriniaeth Pobl Luhansk, ardal a dorrodd yn rhydd yn 2014 o blaid Rwsia. Y ddinas hon a'r ardaloedd cyfagos sydd wedi bod yn un o'r prif safleoedd Rhyfel y Donbas. Nes i Luhansk gael ei chipio gan y Weriniaeth, canolfan weinyddol Oblast Luhansk oedd hi. Amcangyfrifir mai 399,559 o bobl sydd yn byw yn y ddinas heddiw.[2]

History[golygu | golygu cod]

Cofeb i Charles Gascoigne yn ymyl yr amgueddfa leol
Un o danciau Mk V a ddefnyddiwyd gan Fyddin y Don yn ystod Rhyfel Cartref Rwsia

Mae'r ddinas yn olrhain ei hanes yn ôl i 1795 pan sefydlodd y diwydiannwr Prydeinig Charles Gascoigne ffatri fetel ger anheddiad y Cosaciaid Zaporizhiaidd, Kamianyi Brid. Roedd yr anheddiad o gwmpas y ffatri yn dwyn yr enw Luganskiy Zavod a chyfunwyd hi â thref Kamianyi Brid yn 1882 i greu dinas Luhansk. Ar Fasn Donets, datblygodd Luhansk yn ganolfan ddiwydiannol bwysig yn Nwyrain Ewrop, yn enwedig fel cartref i gwmni mawr adeiladu locomotifau Luhanskteplovoz. Meddiannwyd y ddinas gan yr Almaen Natsïaidd rhwng 14 Gorffennaf 1942 a 14 Chwefror 1943.

Ar 5 Tachwedd 1935, ailenwyd y ddinas yn Voroshilovgrad (Rwsieg: Ворошиловград; Wcreineg: Ворошиловград) er mwyn anrhydeddu'r cadlywydd a'r gwleidydd Sofietaidd Kliment Voroshilov. Ar 5 Mawrth 1958, yn dilyn galwad gan Khrushchev i beidio â rhoi enwau pobl fyw ar ddinasoedd, adferwyd yr hen enw.[3][4] Ar 5 Ionawr 1970, ar ôl marwolaeth Voroshilov ar 2 Rhagfyr 1969, newidiwyd yr enw eto i Voroshilovgrad. O'r diwedd, ar 4 Mai 1990, rhoddodd archddyfarniad gan Senedd Wcráin yr enw gwreiddiol yn ôl i'r ddinas.

Yn 1994, bu refferendwm yn Oblast Donetsk ac Oblast Luhansk, pan gefnogodd oddeutu 90% o bobl y cynnig i roi statws swyddogol i Rwseg ochr yn ochr â'r Wcreineg, ac i Rwseg fod yn iaith swyddogol ar lefel ranbarthol. Er hynny, dirymwyd y refferendwm hwn gan lywodraeth Wcráin.[5]

Yn ystod y rhyfel yn y Donbas, cipiodd ymwahanwyr adeiladau'r llywodraeth yn yr ardal, gan ddatgan fodolaeth Gweriniaeth Pobl Luhansk. Cynhaliwyd refferendwm ar annibyniaeth, a oedd yn anghyfansoddiadol dan gyfraith Wcráin, ar 11 Mai 2014. Ni chydnabuwyd hwn fel refferendwm cyfreithlon gan unrhyw lywodraeth heblaw De Osetia.[6][7] Nid yw Wcráin yn cydnabod y refferendwm a dywedodd yr UE ac UDA fod y reffereda yn anghyfreithlon hefyd.[8]

Aflonyddwch o blaid Rwsia yn Luhansk, Ebrill 2014

Ar 25 Mehefin 2014, pennodd llywodraeth ymwahanol Gweriniaeth Pobl Luhansk y ddinas yn brifddinas iddi.[9]

Ym mis Awst 2014, amgylchynodd lluoedd Wcráin Luhansk, a oedd yn nwylo'r gwrthryfedlwyr.[10] Anafwyd nifer wedi i daflegrau fwrw'r ddinas.[11][12][13] Ar 17 Awst, aeth milwyr Wcráin i mewn i Luhansk ac roedd ganddynt reolaeth dros orsaf heddlu am ychydig.[14]

Ar ôl gwrthymosodiad brwydr Ilovaisk, adenillodd lluoedd y Weriniaeth Lutuhyne a maestrefi eraill yn Luhansk. Tynnodd lluoedd Wcráin yn ôl o Faes Awyr Rhyngwladol Luhansk ar 1 Medi 2014 ar ôl ymladd chwyrn.[15]

Daeth Luhansk yn brifddinas a chanolfan weinyddol ar y Weriniaeth ac felly symudodd llywodraeth Wcráin wweinyddiaeth Oblast Luhansk i Sievierodonetsk.

Addysg uwch[golygu | golygu cod]

Mae rhai o brifysgolion enwocaf Wcráin yn Luhansk. Luhansk yw leoliad prif gampysau Prifysgol Genedlaethol Tara Shevchenko Wcráin, Prifysgol Genedlaethol Volodymyr Dahl Dwyrain Wcráin a Phrifysgol Feddygol Wladol Luhansk.

Demograffeg[golygu | golygu cod]

Rhanbarthau Luhansk

Yng nghyfrifiad Wcráin yn 2001,[16] 49.6% o'r drigolion oedd yn dweud mai Wcreiniaid ethnig oedden nhw a 47% mai Rwsiaid ethnig oeddynt. Roedd 85.3% yn siarad Rwsieg, yr iaith frodorol fwyaf yno, ac 13.7% oedd yn siarad Wcreineg fel iaith frodorol. Cafwyd niferoedd llai yn siarad Armeneg (0.2%) a Belarwseg (0.1%).

Chwaraeon[golygu | golygu cod]

Mae Luhansk yn gartref i dîm pêl-droed Zorya Luhansk, sydd nawr yn chwarae ym mhencampwriaeth flynyddol Uwch Gynghrair Wcráin ac yn Stadiwm Avanhard. Enilloedd y clwb Gynghrair Uwch y Sofietiaid yn 1972.

Dynamo Luhansk oedd y tîm arall y bu'r ddinas yn gartref iddo.

Cefnen Merheleva[golygu | golygu cod]

Ar 7 Medi 2006, cyhoeddodd archaeolegwyr yn Wcráin iddynt ddarganfod strwythur hynafol ger Luhansk ac roedd y wasg yn adrodd mai pyramid a oedd o leiaf 300 mlynedd yn hŷn yn na rhai'r Aifft oedd hwn. Dywedwyd bod ei sylfeini cerrig yn debyg i rai pyramidau'r Asteciaid a'r Maias ym Mesoamerica. Daethpwyd i'r casgliad wedyn nad pyramid oedd y safle hwn ond ei fod o ddiddordeb mawr er hynny.

Oriel[golygu | golygu cod]

Yn ystod 2014 a 2015, bu Luhansk yn safle i ymladd chwyrn ac felly mae'r rhan fwyaf o'r adeiladau hyn wedi cael rhywfaint o ddifrod. Mae'n bosibl bod rhai wedi cael eu chwalu.

Enwogion[golygu | golygu cod]

Sergey Bubka
Anton Shoutvin

Gefeilldrefi[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. https://pedwargwynt.cymru/adolygu/gareth-jones-y-llyfrau-y-ffilmiau-y-propaganda
  2. "Чисельність наявного населення України (Gwir Boblogaeth Wcráin)" (PDF). Державний Комітет Статистики України (Gwasanaeth Ystadegau Gwladol Wcráin). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2022-04-06. Cyrchwyd 3 Mawrth 2022.
  3. 'Военная Литература' – Биографии – С.Н. Хрущёв ['Military Literature' – Biographies – S. N. Khrushchev] (yn Rwseg). Militera.lib.ru. Cyrchwyd 30 October 2017.
  4. "Записки из Якирова Посада – Луганск-Ворошиловград-Луганск". Shusek.livejournal.com. 2 November 2009. Cyrchwyd 16 September 2011.
  5. Донбасс: забытый референдум-1994 [Donbas: the forgotten referendum-1994] (yn Rwseg). Thekievtimes.ua. 14 May 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-02-05. Cyrchwyd 30 October 2017.
  6. "Ukraine's Eastern Region Of Luhansk May Now Hold Referendum On Joining Russia". Business Insider. Cyrchwyd 12 May 2014.
  7. "South Ossetia recognises independence of Donetsk People's Republic". Information Telegraph Agency of Russia. 27 June 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-11-17. Cyrchwyd 28 June 2014.
  8. "Ukraine rebels seek to join Russia". 12 May 2014. Cyrchwyd 15 April 2019.
  9. ЗАКОН 'О системе исполнительных органов государственной власти Луганской Народной Республики' [LAW 'On the system of executive bodies of state power of the Lugansk People's Republic'] (yn Rwseg). lugansk-online.info. 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 September 2014. Cyrchwyd 23 November 2014.
  10. "East Ukraine city of Luhansk dying under siege, residents say". The Denver Post. 5 August 2014.
  11. "Ukraine conflict: Under siege in Luhansk". Bbc.com. 13 August 2014. Cyrchwyd 30 October 2017.
  12. "In Shell-Torn Luhansk, Food and Water Is Scarce: 'Welcome to Hell!'". Newsweek. 15 August 2014.
  13. Magnay, Diana; Lister, Tim (3 June 2014). "Air attack on pro-Russian separatists in Luhansk kills 8, stuns city". CNN. Cyrchwyd 30 October 2017.
  14. "Ukraine troops claim breakthrough in battle for rebel city Luhansk". The Guardian. Reuters. 17 August 2014. Cyrchwyd 17 August 2014.
  15. "Ukraine crisis: Troops abandon Luhansk airport after clashes". Bbc.com. 1 September 2014. Cyrchwyd 30 October 2017.
  16. "All-Ukrainian Population Census '2001". State Statistics Committee of Ukraine.
  17. "Cardiff's twin cities". Cardiff Council. 15 June 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 June 2011. Cyrchwyd 10 August 2010.
  18. 18.0 18.1 18.2 18.3 18.4 18.5 "History of Luhansk". Official site of Luhansk City Council. 15 October 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-08-17. Cyrchwyd 10 June 2015.
  19. "Miasta Partnerskie Lublina" [Partner Cities of Lublin]. Lublin.eu (yn Pwyleg). Lublin. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 January 2013. Cyrchwyd 7 August 2013.
  20. "Partnervárosok Névsora Partner és Testvérvárosok Névsora" [Partner and Twin Cities List]. City of Székesfehérvár (yn Hwngareg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 December 2012. Cyrchwyd 5 August 2013.
  21. "大庆市与乌克兰卢甘斯克市的往来纪实". 大庆市外事侨务网站. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 May 2015. Cyrchwyd 14 July 2014.
  22. Sue Bridger; Frances Pine (11 January 2013). Surviving Post-Socialism: Local Strategies and Regional Responses in Eastern Europe and the Former Soviet Union. Routledge. t. 190. ISBN 978-1-135-10715-4. Cyrchwyd 9 June 2015.
Eginyn erthygl sydd uchod am Wcráin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.