Uman
![]() | |
![]() | |
Math | dinas bwysig i'r rhanbarth yn Wcráin ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 82,154 ![]() |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 ![]() |
Gefeilldref/i | Łańcut, Davis, Gniezno, Haapsalu City, Aberdaugleddau, Romilly-sur-Seine, Haapsalu ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Cherkasy Oblast, Sir Uman, Yekaterinoslav Viceroyalty, Uman Raion, Umanska miska rada ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 41 km² ![]() |
Uwch y môr | 166 ±1 metr ![]() |
Gerllaw | Umanka (river) ![]() |
Cyfesurynnau | 48.75°N 30.22°E ![]() |
Cod post | 20300–23019 ![]() |
![]() | |
Dinas yn rhanbarth Cherkasy, yng nghanolbarth Wcráin, ac i'r dwyrain o Vinnytsia yw Uman (Умань; neu yn Iddew-Almaeneg: Imen' efo n palateiddiol). Saif ar lannau'r afon Umanka, ac mae'n gwasanaethu fel prifddinas ardal Umanskyi ac fel dinas ar wahân. Ei phoblogaeth yn 2004 oedd 88,730.
Hanes[golygu | golygu cod]
Sonir am Uman ers 1616 fel caer rhag y Tatariaid pan sefydlodd milwyr Cosac yn y dref. Yn 1670 tan 1674, roedd Uman yn bencadlys Hetman a oedd yn gadfridog Cosac.
Ym 1768 cafwyd Cyflafan Uman wedi i rebeliaid Cosac (Haydamak) dan Maksym Zalizniak a Ivan Gonta gipio'r dref oddi wrth y Pwyliaid. Daeth Uman yn rhan o Ymerodraeth Rwsia ym 1793 ac adeiladwyd tai crand yno. Parc mawr yw prif nodwedd Uman y Sofiyivka (Софiївка) crewyd yn 1796 gan Count Stanisław Szczęsny Potocki, uchelwr Pwylaid, ac enwyd y lle ar ôl ei wraig Sofia. Mae rhaeadrau a phonydd ym Mharc Sofia wedi ysgogi dyfyniad enwog gan Rabbi Nachman o Breslov (y dyn a sefydlodd y sect Hasidim): "mae'r byd i gyd fel pont gul, ond does dim byd i'w ofni." Daeth y dyfyniad yn enwog i Iddewon y byd.
Cymuned Iddewig[golygu | golygu cod]
Ffynnodd cymuned fawr o Iddewon yn y dref yn y 18ed a'r 19goedd. Dinistrwyd y gymuned wedi 1941, ar ôl Brwydr Uman pryd oedd y dref dan warchae y Wehrmacht. Erys yn ganolfan pererindod o bwys i Iddewon.
Bedd y Rebbe[golygu | golygu cod]
Yn Uman mae bedd Rabbi Nachman o Breslov, y Rebbe o'r sect Breslov o Iddewon Hasidaidd. Bu farw Rabbi Nachman yn Uman, a dewisodd gael ei gladdu yno. Yn ystod Rosh Hashanah (Blwyddyn Newydd yr Iddewon) mae pererindod gan Hasidim Breslov ag eraill i'w fedd; bu cynnydd sylweddol yn ddiweddar ac mae hyd at 30,000 chassidim yn dod o bob man yn y byd (dynion gan amlaf). Dechreuwyd y pererindod i 1811, blwyddyn ei gladdu yn Uman. Dywedodd y Rebbe y dylai ei ddilynwyr dod i'w weld ar Rosh Hashana bob blwyddyn.
Gwaharddwyd yr arfer tan 1989 dan y Sofietaid.[1] Ganwyd y Cadfridog Sofiet Ivan Chernyakhovsky, y bardd Yideg Ezra Fininberg a'r awdur Yideg Hershl Polyanker yn Uman.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod]
- Parc Sofiyivsky - tirlun ger y ddinas

Gefeilldrefi[golygu | golygu cod]
Gefellwyd Uman gyda:
Gniezno yng Ngwlad Pwyl
Łańcut yng Ngwlad Pwyl [2]
Davis yng Nghaliffornia, UDA
Aberdaugleddau yng Nghymru
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- (Wcreineg) (1972) Історіа міст i сіл Укpaїнcькoї CCP - Черкаськa область (History of Towns and Villages of the Ukrainian SSR - Cherkasy Oblast), Kyiv.
- (Saesneg) Uman yn Encyclopedia of Ukraine
- ↑ Gweler erthygl "A New Phase in Jewish-Ukrainian Relations" gan Mitsuharo Akao; bibliographical details at http://www.informaworld.com/smpp/content~content=a780715503~db=all
- ↑ Łańcut Official Website - Foreign contacts.
Dolennni allanol[golygu | golygu cod]
- (Saesneg) All about Uman Archifwyd 2007-10-26 yn y Peiriant Wayback.