Alushta
Gwedd
| Math | dinas yn Wcráin, tref neu ddinas, anheddiad dynol |
|---|---|
| Poblogaeth | 31,364 |
| Sefydlwyd | |
| Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 |
| Gefeilldref/i | Jūrmala, Dubna |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Tatareg y Crimea, Wcreineg, Rwseg |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Cyngor Dinas Alushta, Alushta Urban Okrug |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 6.983 km² |
| Uwch y môr | 50 ±1 metr |
| Cyfesurynnau | 44.6672°N 34.3978°E |
| Cod post | 98500–98519 |
![]() | |
Dinas fechan yng Ngweriniaeth Crimea, Rwsia (Wcráin hyd 2014), sy'n ganolfan wyliau glan môr yw Alushta (Rwseg, Алушта; Tatareg Crimea, Aluşta; Wcreineg, Алушта). Fe'i sefydlwyd yn y 6g gan yr Ymerodr Bysantaidd Justinian. Mae'n gorwedd ar lan y Môr Du ar y ffordd arfordirol rhwng Gurzuf a Sudak. Mae ffordd dros Fwlch Angarskyi, ym Mynyddoedd Crimea, yn ei chysylltu â Simferopol.
Mae'r ardal yn nodedig am ei thirwedd greigiog. Ceir olion gwaith amddiffynnol Bysantaidd a chaer Genovaidd o'r 15g yno. Dan y Bysantaidd adnabyddid y dref fel Aluston (Αλουστον) a Lusta oedd yr enw yng nghyfnod rheolaeth Genova. Cyflwynodd y bardd Adam Mickiewicz ddau o'i sonedau am y Crimea i Alushta.
