Adam Mickiewicz

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Portread Adam Mickiewicz gan Walenty Wańkowicz, 1828-1829.

Llenor Pwylaidd[1][2] oedd Adam Bernard Mickiewicz (24 Rhagfyr 1798 yn Zaosie ger Nowogródek, Ymerodraeth Rwsia26 Tachwedd 1855 yng Nghaergystennin, Ymerodraeth yr Otomaniaid). Roedd yn fardd, dramodydd, traethodydd, cyfieithydd, cyhoeddwr, ac awdur gwleidyddol, ac ystyrir yn fardd cenedlaethol Gwlad Pwyl.[3]

Adnabyddir ef fel un o Dri Bardd mwyaf yng nghyfnod Rhamantaidd Gwlad Pwyl (ynghyd â Juliusz Słowacki a Zygmunt Krasiński) ac fel un o lenorion gorau Gwlad Pwyl yn gyffredinol[4][5][6] a hyd yn oed yn Ewrop gyfan.[7] Yn ôl nifer, Mickiewicz yw'r bardd gorau yn holl lenyddiaeth Bwyleg.[4][5][6] Ymhlith ei weithiau mwyaf adnabyddus y mae baledi, nofelau barddonol, y ddrama fydryddol Dziady a'r arwrgerdd genedlaethol Pan Tadeusz a ystyrir fel arwrgerdd olaf diwylliant bonedd Cymanwlad Gwlad Pwyl a Lithwania.

Mae'n debyg y bu farw o golera.[8]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Lua error in Modiwl:Citation/CS1 at line 127: Argument map not defined for this variable.
  2. britannica.com. "Adam Mickiewicz". http://www.britannica.com/EBchecked/topic/380179/Adam-Mickiewicz. Adalwyd 26 January 2012.
  3. Lua error in Modiwl:Citation/CS1 at line 127: Argument map not defined for this variable.
  4. 4.0 4.1 S. Treugutt: Mickiewicz – domowy i daleki. in: A. Mickiewicz: Dzieła I. Warszawa 1998, p. 7
  5. 5.0 5.1 E. Zarych: Posłowie. in: A. Mickiewicz: Ballady i romanse. Kraków 2001, p. 76
  6. 6.0 6.1 Roman Koropeckyj, Adam Mickiewicz as a Polish National Icon, in Lua error in Modiwl:Citation/CS1 at line 127: Argument map not defined for this variable.
  7. A. Wójcik i M. Englender: Budowniczowie gwiazd 1. Warszawa 1980, str. 19-10
  8. Lua error in Modiwl:Citation/CS1 at line 127: Argument map not defined for this variable.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: