Zygmunt Krasiński
Zygmunt Krasiński | |
---|---|
![]() Portread o Zygmunt Krasiński gan Ary Scheffer (1850). | |
Ffugenw | Le poète anonyme de la Pologne ![]() |
Ganwyd | Napoleon Stanisław Adam Feliks Zygmunt Krasiński ![]() 19 Chwefror 1812 ![]() Paris ![]() |
Bu farw | 23 Chwefror 1859 ![]() Paris ![]() |
Dinasyddiaeth | Ffrainc, Ymerodraeth Rwsia ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, ysgrifennwr, dramodydd, athronydd ![]() |
Prif ddylanwad | Georg Hegel, Walter Scott, Friedrich Schelling, George Gordon Byron, Bronisław Trentowski, August Cieszkowski ![]() |
Tad | Wincenty Krasiński ![]() |
Mam | Maria Urszula Krasińska ![]() |
Priod | Eliza Krasińska ![]() |
Plant | Władysław Krasiński, Maria Beatrix Krasińska ![]() |
Llinach | House of Krasiński ![]() |
llofnod | |
![]() |
Bardd a dramodydd Pwylaidd oedd Zygmunt Krasiński (Napoleon Stanisław Adam Ludwik Zygmunt Krasiński; 19 Chwefror 1812 – 23 Chwefror 1859). Gyda Adam Mickiewicz a Juliusz Słowacki, fe'i adnabyddir yn un o'r Tri Bardd (Pwyleg: Trzej Wieszcze) gwychaf yn y cyfnod Rhamantaidd yn llên Gwlad Pwyl. Cafodd ei eni yn Ffrainc, a threuliodd y rhan fwyaf o'i oes yn alltud o Wlad Pwyl; er hynny, cenedlaetholwr Pwylaidd a Slafgarwr pybyr ydoedd, ac mae ei waith yn ymwneud â thynged hanesyddol ei famwlad yn ogystal â chyflwr y ddynolryw yn gyffredinol.
Ganed ef i deulu o'r bendefigaeth Bwylaidd, y szlachta, ym Mharis yng nghyfnod yr Ymerodraeth Napoleonaidd. Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Warsaw cyn iddo deithio i Genefa ym 1829. Byddai ei dad, y Cownt Wincenty Krasiński, yn gwasanaethu'r Tsar Niclas I yng Ngwlad Pwyl y Gyngres, ac yn cefnogi Ymerodraeth Rwsia yn erbyn y Pwyliaid yng Ngwrthryfel Tachwedd 1830.
Ei ddwy ddrama bwysicaf ydy'r trasiedïau Nieboska komedia ("Y Gomedi Annwyfol", 1835), sy'n portreadu rhyfel dosbarth yn y dyfodol, ac Irydion (1836), aralleg glasurol o hanes ei wlad sydd yn cyfnewid y Groegiaid am y Pwyliaid a'r Ymerodraeth Rufeinig am Ymerodraeth Rwsia. Ei gerdd enwocaf yw Przedświt ("Gwawr", 1843), sydd yn ymwneud â rhaniadau Gwlad Pwyl yn niwedd y 18g.
Cyhoeddodd y mwyafrif o'i weithiau yn ddi-enw yn ystod ei oes. Bu farw Zygmunt Krasiński ym Mharis yn 47 oed.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Zygmunt Krasiński. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Chwefror 2022.