Cawnas
| Math | dinas, dinas Hanseatig, dinas fawr |
|---|---|
| Poblogaeth | 305,120 |
| Pennaeth llywodraeth | Visvaldas Matijošaitis |
| Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 |
| Gefeilldref/i | Kharkiv |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Kaunas |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 157 km² |
| Uwch y môr | 48 metr |
| Gerllaw | Afon Neman |
| Cyfesurynnau | 54.9°N 23.93°E |
| Cod post | LT-44001 |
| Pennaeth y Llywodraeth | Visvaldas Matijošaitis |
![]() | |
Ail-ddinas fwyaf Lithwania yw Cawnas (/ˈkaʊnəs/; Lithwaneg: Kaunas [kɐʊˑn̪ɐs̪] (
gwrando); Pwyleg: Kowno; gynt Saesneg: Kovno), sydd wedi'i lleoli yng nghanol y wlad ac sy'n hanesyddol yn ganolfan economaidd, academaidd, a diwylliannol bwysig yn Lithwania. Mae'r ddinas tua hanner ffordd rhwng Vilnius, y brifddinas, a Memel, prif borthladd Lithwania.

Mae'r enw hefyd yn cwmpasu sir Cawnas, sedd Dinas Cawnas a Dosbarth Cawnas. Defnyddir yr enw hefyd am sedd Archesgobaeth Gatholig Cawnas. Fe'i lleoli yng nghymer dwy afon fwayf Lithwania: Afon Nemunas ac Afon Neris, a ger Cronfa Ddŵr Cawnas, y corff mwyaf o ddŵr yn Lithwania.
Credir y cafodd Cawnas ei sefydlu yn 1030, ond mae'n cael ei chrybwyll gyntaf mewn ffynonellau ysgrifenedig yn 1361. Mae tarddiad mwyaf tebygol enw Lithwaneg y ddinas yn deillio o enw personol tebyg.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Zinkevičius, Zigmas (2007). Senosios Lietuvos valstybės vardynas. Vilnius: Mokslo ir enciklopedijų leidybos institutas. ISBN 5-420-01606-0
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan swyddogol y ddinas[dolen farw]
