Gweriniaeth Crimea
| Delwedd:Coat of arms of Crimea.svg, Emblem of Crimea.svg | |
| Math | gweriniaethau Rwsia, tiriogaeth ddadleuol, federal subject of Russia |
|---|---|
| Prifddinas | Simferopol |
| Poblogaeth | 1,896,393 |
| Sefydlwyd | |
| Anthem | State Anthem of Crimea |
| Pennaeth llywodraeth | Yury Gotsanyuk |
| Cylchfa amser | Amser Moscfa, UTC+03:00, Europe/Simferopol |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Rwseg, Wcreineg, Tatareg y Crimea |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Dosbarth Ffederal Deheuol, Rwsia Ewropeaidd |
| Sir | Rwsia |
| Gwlad | Rwsia |
| Arwynebedd | 26,081 km² |
| Yn ffinio gyda | Crai Krasnodar, Sefastopol, Kherson Oblast |
| Cyfesurynnau | 44.9481°N 34.1042°E |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | State Council of the Republic of Crimea |
| Swydd pennaeth y wladwriaeth | Head of the Republic of Crimea |
| Pennaeth y wladwriaeth | Sergei Aksyonov |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prime Minister of Crimea |
| Pennaeth y Llywodraeth | Yury Gotsanyuk |
![]() | |
| Arian | Rŵbl Rwsiaidd, hryvnia |
Mae Gweriniaeth Crimea (Rwsieg: Республика Крым; Tatareg Crimea: Къырым Джумхуриети, Qırım Cumhuriyeti; Iwcraineg: Республіка Крим) rhanbarth o Wcráin a hawlir fel gan Rwsia fel pwnc ffederal. Mae'n gorchuddio Penrhyn y Crimea yn gyfangwbwl. O'i chwmpas mae'r Môr Du a Môr Azov, gyda de Wcráin i'r gogledd ohoni, a thir mawr Rwsia i'r gorllewin. Mae ei statws yn ddadleuol.
Cafodd ei ffurfio ym Mawrth 2014 pan unodd yr hen Weriniaeth Ymreolaethol Crimea" gyda dinas Sevastopol— y ddau cyn hynny'n eiddo i Wcráin — yn un weriniaeth. Gwnaeth y ddau ranbarth ddatganiad o annibyniaeth a datganiad o ffyddlondeb i Rwsia ar 17 Mawrth wedi refferendwm lle gwelwyd 96% o’r trigolion yn pleidleisio o blaid gadael Wcráin ac ymuno â Rwsia.[1][2] Ar 21 Mawrth cafodd y weriniaeth newydd ei derbyn yn rhan o Ffederaliaeth Rwsia.
Nid yw statws y weriniaeth fel rhan o Rwsia yn cael ei gydnabod gan yr Undeb Ewropeaidd a'r Unol Daleithiau. Erbyn diwedd Mawrth 2014 cydnabuwyd statws y weriniaeth gan Armenia, Gweriniaeth Nagorno-Karabakh, Affganistan, Belarws, Nicaragwa a rhai gwledydd eraill.
Galeri
[golygu | golygu cod]Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Golwg360; adalwyd 18 Mawrth 2014
- ↑ "Ukraine 'will never accept' Crimea annexation, President says". CNN. Cyrchwyd 17 Mawrth 2014.
