Pau

Oddi ar Wicipedia
Pau
Mathcymuned, dinas, anheddiad dynol Edit this on Wikidata
LL-Q117707514 (oci-whistled)-Univòc64-Pau.wav, LL-Q150 (fra)-Jules78120-Pau.wav, LL-Q35735-Davidgrosclaude-pau.wav Edit this on Wikidata
Poblogaeth77,066 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethFrançois Bayrou Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Göttingen, Setúbal, Zaragoza, Pistoia, Kofu, Abertawe, Daloa, Xi'an Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPyrénées-Atlantiques, Canton Juranson, canton Pau-Centre, canton Pau-Est, canton Pau-Nord, canton Pau-Ouest, canton Pau-Sud, arrondissement Pau Edit this on Wikidata
GwladBaner Ocsitania Ocsitania , Baner Ffrainc Ffrainc
Arwynebedd31.51 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr205 metr Edit this on Wikidata
GerllawGave de Pau Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaBuros, Billère, Bizanos, Gelos, Idron, Jurançon, Lons, Montardon, Morlaàs Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.3008°N 0.37°W Edit this on Wikidata
Cod post64000 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Pau Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethFrançois Bayrou Edit this on Wikidata
Map
Castell Pau

Tref a chymuned yn département Pyrénées-Atlantiques, rhanbarth Aquitaine, yn ne-orllewin Ffrainc ger y Pyreneau ydy Pau. Yr ynganiad Ocsitaneg ydy [ˈpaw] a'r ynganiad Ffrangeg ydy [ˈpo]. Mae ganddi boblogaeth o 78,732 (1999).

Arwyddair: "Urbis Palladium et Gentis".

Hanes[golygu | golygu cod]

Pau oedd prifddinas Béarn o 1464 ymlaen, ond cyn hynny roedd Morlans ac Ortès yn brifddinasoedd y frenhiniaeth, ac doedd dim rôl arbennig gan Pau cyn y 10fed ganrif. Is-iarllaeth oedd Béarn, dan arweiniad ieirll Foish (Foix yn Ffrangeg), a oedd yn annibynnol ar adeg pan oedd teyrnasoedd Ffrainc a Lloegr yn cystadlu dros ardal Aquitaine, gyda chlymbleidio yn newid yn aml. O'r 10fed tan y 12fed ganrif, pentref gyda chastell oedd Pau, math o gastell a gyfeiriwyd ato yn yr hen Ocsitaneg fel "castelnau" (sef castell newydd), "casteth nau" yn nhafodiaeth Gasconeg Ocsitaneg erbyn hyn. "Baile" oedd yn rheoli'r castell, wedi ei benodi gan Ieirll Béarn. Gaston Febus o deulu Foish-Bearn penderfynodd cryfhau yr amddiffynfeydd, ac a dewisodd Pau yn brifddinas wrth iddo ddod i fyw yn y Castell. Roedd y castell wedyn yn gartref i frenhinoedd Nafarroa hyd at yr uno gyda Theyrnas Ffrainc ym 1620.

Geirdarddiad[golygu | golygu cod]

Nid yw tarddiad yr enw Pau yn eglur. Yn ôl un damcaniaeth, mae'r enw yn cyfeirio at y gweundir yr adeiladwyd Pau arni, ger afon y Gave, a gyfeirwyd ato yn Lladin fel palus, paludis (f) < palud < pau. Yn ôl damcaniaeth arall, daw'r enw o'r Ffrangeg 'palissade' gan gyfeirio at ffensys amddiffynnol.

Trafnidiaeth[golygu | golygu cod]

Mae gan Pau orsaf drenau, gyda gwasanaethau i Baiona a Hendaia, Toulouse, Dax, Bordeaux a Pharis. Ym 1928 agorwyd lein trwy'r Pyreneau i Canfranc yn Sbaen, ond caewyd rhan o'r lein yn dilyn tirlithriad yn 1970. Dim ond o Pau i Bedous mae'r trenau yn rhedeg ar hyn o bryd, ond mae bwriad ail-agor y lein gyfan.

Enw rhwydwaith bysys y dref yw Idelis +, sy'n cael ei redeg gan la Société des transports de l'agglomération paloise, (STAP). Mae lein arbennig y Fébus a lansiwyd yn 2019 yn defnyddio bysiau tanwydd hydrogen.

Lleolir maes awyr Pau-Pyrénées, cod PUF, yn Uzein, 7 km o'r dref.

Mae traffordd yr A64, rhan o'r E80, yn cysylltu Pau gyda Toulouse yn y Dwyrain ac arfordir Gwlad y Basg yn y Gorllewin. Mae traffordd yr A65, rhan o'r E7, yn mynd o gyrion Pau i Langon ger Bordeaux.

Sefydliadau[golygu | golygu cod]

  • Prifysgol Pau [1]

Sefydliadau sy'n hyrwyddo'r iaith Ocsitaneg:

Gefeilldrefi[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.