Neidio i'r cynnwys

Gŵyl Gomedi Aberystwyth

Oddi ar Wicipedia
Gŵyl Gomedi Aberystwyth
Enghraifft o:gŵyl gomedi Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Mae Gŵyl Gomedi Aberystwyth (neu Aberystywth Comedy Festival) yn ddigwyddiad gomedi sy'n cynnwys comedïwyr Saesneg a Chymraeg eu hiaith yn perfformio mewn lleoliadau ar hyd tref Aberystwyth. Cynhaliwyd yr ŵyl gyntaf ym mis Hydref 2018.

Sefydlu

[golygu | golygu cod]
Mark Thomas, un o'r comedïwyr yn yr ŵyl gyntaf
Poster tu fâs Canolfan Arad Goch

Trefnir Gŵyl Gomedi Aberystwyth gan Little Wander, y tîm sy’n gyfrifol am Ŵyl Gomedi Machynlleth.

Tra bod gŵyl Machynlleth yn canolbwyntio’n bennaf ar sioeau o waith sy'n paratoi ar gyfer Gŵyl Caeredin, mae'r ŵyl yn Aberystwyth yn arddangos dewis y trefnwyr o’r sioeau gorffenedig, rhai sy'n barod i fynd ar daith mewn lleoliadau perfformio ac sy’n bodoli eisoes yn Aberystwyth.

Cynhaliwyd yr wyl gyntaf yn Aberystwyth gyda tua 40 sioe o nos Wener i nos Sul, 5-7 Hydref 2018.

Yn ôl y trefnwyr ni fydd y digwyddiad yn Aberystwyth yn darostyngi Gŵyl Gomedi Machynlleth. Noda'r wefan i'r cwestiwn rhethregol yma, "Na fydd wir! Bydd hunaniaeth wahanol iawn i’r ddwy, ar ddau ben y calendr comedi."[1]

Noddwyd yr Ŵyl gyntaf gan Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Gronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth Llywodraeth Cymru a Croeso Cymru - corff twristiaeth Cymru sy'n rhan o'r Llywodraeth (yr hen Fwrdd Croeso Cymru).

Gŵyl Gomedi Aberystwyth 2018

[golygu | golygu cod]

Ymysg yr artistiaid oedd Tudur Owen yn perfformio yn y Gymraeg a'r Saesneg, y comedïwr Cymreig, Lloyd Langford; y comedïwyr Saesneg Paul Newman, Mark Thomas a Paul Foot.[2]

Roedd y lleoliadau'n cynnwys: Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth, Canolfan Theatr Arad Goch, Bandstand Aberystwyth, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Sinema'r Commodore, y Coliseum o fewn Amgueddfa Ceredigion, Pier Aberystwyth a Theatr y Castell.[3]

Dolenni

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]