Croeso Cymru

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Bwrdd Croeso Cymru)
Jump to navigation Jump to search
Croeso Cymru yn cael ei hysbysebu ar awyren Bmibaby Boeing 737-500.

Croeso Cymru (Saesneg: Visit Wales) yw tîm twristiaeth Llywodraeth Cymru sydd yn rhan o isadran Twristiaeth a Marchnata o fewn yr Adran Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth.[1]

Cymerodd Croeso Cymru y gwaith o hybu twristiaeth i Gymru a wnaed yn flaenorol gan Fwrdd Croeso Cymru, a oedd yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru. Swyddogaeth Croeso Cymru yw cefnogi'r diwydiant twristiaeth, gwella twristiaeth yng Nghymru a darparu fframwaith strategol lle gall mentrau preifat elwa o dwf cynaliadwy er mwyn cyfrannu at les economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Amcangyfrif fod twristiaid yn gwario oddeutu £14 miliwn y dydd yng Nghymru, sy'n rhoi cyfanswm o £5.1 biliwn y flwyddyn. Yn 2009 amcangyfrwyd fod cyfraniad uniongyrchol twristiaeth i'r economi yn 5.8% o GDP heb gyfri unrhyw adwerthu anuniongyrchol. Roedd tua 90,000 yn cael eu cyflogi yn uniongyrchol yn y maes twristiaeth, sydd yn 6.9% o'r gweithlu, yn uwch na unrhyw un arall o wledydd Prydain.[2]

Yn 2014 gwnaed 10 miliwn o ymweliadau i Gymru gan drigolion o wledydd Prydain a daeth 64% ohonynt ar wyliau, 28% i ymweld â ffrindiau a pherthnasau a 6% ar daith fusnes.[2]

Yn yr un flwyddyn roedd ychydig llai na 1 miliwn o ymweliadau gan dwristiaid o dramor. Tarddiad pwysicaf ymwelwyr tramor yw Gweriniaeth Iwerddon (148,000), Ffrainc (111,000), yr Almaen (92,000) ac UDA (90,000).[2]

Mae twristiaeth yn arbennig o bwysig i economi cefn gwlad ac yn fwy dibynnol ar incwm o'r sector nac ardaloedd eraill.[3] Y gweithgareddau mwyaf poblogaidd i dwristiaid yng Nghymru yw: cerdded, nofio, ymweld â lleoedd o ddiddordeb hanesyddol fel cestyll ac ymweld ag amgueddfeydd a galerïau. Yr atyniad mwyaf poblogaidd yw Amgueddfa Werin Cymru sy'n denu dros 500,000 o ymwelwyr yn flynyddol.[4]

Yn 2014, roedd tua 79,000 o lefydd gwely mewn llety â gwasanaeth a thua 63,000 o lefydd mewn llety hunan ddarpar.[5]

Canolfannau Croeso[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae 39 o ganolfannau croeso o gwmpas Cymru (yn 2016), sy'n fan cychwyn i nifer o ymwelwyr, yn cynnig gwybodaeth leol a gwasanaethau bwcio llety a nifer fawr o wasanaethau arall.[6]

Rheolir y canolfannau gan 29 Awdurdod Rheoli gwahanol (sy'n cynnwys Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Lleol) ac mae Croeso Cymru yn cydlynu'r rhwydwaith i osod a monitro safon y gwasanaeth, yr wybodaeth a gofal cwsmer.[7]

Hanes Bwrdd Croeso Cymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Sefydlwyd Bwrdd Croeso Cymru yn 1969 o ganlyniad i Ddeddf Datblygu Twristiaeth 1969 ac fe ehangwyd ei rôl yn dilyn Deddf Twristiaeth (Hyrwyddo dramor) (Cymru) 1992. Ar 23 Tachwedd 2005 pasiwyd 'Gorchymyn Diddymu' gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a throsglwyddwyd swyddogaethau'r corff yn llwyr i Lywodraeth Cymru ar 1 Ebrill 2006. Daeth Bwrdd Croeso Cymru i ben ar y diwrnod hwnnw.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]