Ysgol Gynradd Gymunedol Plascrug

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Ysgol gynradd gymunedol Saesneg yn ardal Plascrug, Aberystwyth, Ceredigion, yw Ysgol Gynradd Gymunedol Plascrug. Mae'n darparu addysg ar gyfer plant rhwng 3 ac 11 oed, mae dosbarth meithrin rhan-amser ar gyfer y plant ifengaf.[1] Diffinir fel ysgol yng nghategori B polisi iaith yr awdurdod lleol, felly Saesneg yw prif iaith yr ysgol a dysgir y Gymraeg fel ail iaith. Roedd 362 o blant yn yr ysgol yn 2006.[2]

Adeiladwyd estyniad newydd ar gyfer yr ysgol a agorwyd yn 2011, gan gael gwared ar hen gabanau ac adeiladau dros dro'r ysgol a oedd bellach yn anaddas ar gyfer addysgu. Gosodwyd celloedd ffotofoltäig ar y to er mwyn cyflenwi trydan, ac amcangyfrifir i rhain wneud elw o £513 y mis.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  Ysgol Gynradd Plascrug. Cyngor Sir Ceredigion. Adalwyd ar 29 Gorffennaf 2011.
  2.  Huw Jones (19 Gorffennaf 2006). Adroddiad Arolygiad 22 Mai 2006 (Saesneg). Estyn.
  3.  Ysgol Gynradd Plascrug - Aberystwyth. Ysgolion yr 21ain ganrif. Adalwyd ar 29 Gorffennaf 2011.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Apple-book.svg Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.