Morris Kyffin

Oddi ar Wicipedia
Morris Kyffin
Ganwyd1555 Edit this on Wikidata
Bu farw2 Ionawr 1598 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Clawr Deffynniad Ffydd Eglwys Loegr...; argraffwyd yn Llundain, 1595 gan Richard Field.

Milwr a llenor o Gymro yn yr iaith Gymraeg a'r iaith Saesneg oedd Morris Kyffin (c.15552 Ionawr 1598[1]). Roedd yn frawd i'r bardd Edward Kyffin ac yn ddisgybl i Wiliam Llŷn.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganwyd Morris Kyffin tua 1555 yn ardal Croesoswallt, Swydd Amwythig, ar adeg pan oedd yn ardal Gymraeg. Dyma filltir sgwâr y beirdd Cymraeg Rhys Cain a Wiliam Llŷn a daeth Morris yn ddisgybl barddol i'r olaf. Roedd yn hannu o hen deuluoedd uchelwrol Powys.[2]

Aeth i Lundain pan oedd yn ifanc. Yn 1578 roedd yn athro yn nheulu'r Arglwydd Buckhurst. Cafodd ei addysg yn yr ieithoedd Groeg a Lladin, ond ni wyddom ble. Gwasanaethodd fel trysorydd a swyddi eraill gyda'r fyddin am gyfnod. Bu farw yn Iwerddon ar yr ail o Ionawr 1598 a chafodd ei gladdu yn Eglwys Crist yn Nulyn.[2]

Gwaith llenyddol[golygu | golygu cod]

Yn Llundain daeth i adnabod rhai o lenorion mawr yr oes, pobl fel Edmund Spenser, William Camden a'r Cymro David Powel. Cyfieithodd un o ddramau Terens o'r Lladin i Saesneg (1588). Ceir penillion annerch i Morris gan y Dr William Morgan, cyfieithydd y Beibl, ac mae'n bur debygol felly eu bod yn adnabod eu gilydd.[2]

Fe'i cofir yn bennaf heddiw fel awdur Deffynniad Ffydd Eglwys Lloegr a orffenwyd ganddo yn 1594 ac sy'n gyfieithiad rhydd neu addasiad o waith Saesneg gwreiddiol.[2]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • The Blessedness of Britayne (1587)
  • Deffyniad Ffydd Eglwys Lloegr (1594).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; awdur: Syr Glanmor Williams, M.A., Abertawe; Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54)
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 W. J. Gruffydd, Llenyddiaeth Cymru[:] Rhyddiaith o 1540 hyd 1560 (Wrecsam, 1925), tt. 85-88,