Church Stretton

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Church Stretton
Church Stretton Ragleth 2010 1.jpg
Math Tref, Plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddol Awdurdod Unedol Swydd Amwythig
Daearyddiaeth
Sir Swydd Amwythig
(Sir seremonïol)
Gwlad Baner Lloegr Lloegr
Yn ffinio gyda Cwm Head Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 52.539°N 2.808°W Edit this on Wikidata
Cod SYG E04011244 Edit this on Wikidata
Cod OS SO453937 Edit this on Wikidata
Cod post SY6 Edit this on Wikidata

Tref fechan a phlwyf sifil yn Swydd Amwythig yw Church Stretton. Gorwedd ar yr A49 tua 13 milltir i'r de o dref Amwythig. Roedd ei phoblogaethyn 2011 yn 4,671.[1] Yn oes Victoria, gelwid y dref yn Little Switzerland oherwydd y mynyddoedd o'i chwmpas, lle ceir creigiau hynafol iawn.[2]

Caer Caradog[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Caer Caradoc

Bryn ger Church Stretton ac All Stretton yn Swydd Amwythig yw 'Caer Caradoc'; o'i gopa ceir golygfeydd gwerth chweil. I'r gogledd gwelir Wrekin, i'r dwyrain Wenlock Edge, i'r gorllewin ceir y Long Mynd, ac ar ddiwrnod clir gellir gweld Bryniau Clwyd yn y gogledd a fflatiau tal Birmingham i'r dwyrain a Bannau Brycheiniog i'r de. Ceir bryn cyfagos o'r un enw 1 km i'r gorllewin, a cheir un arall yng Ngherrigydrudion.

Dyma fryncyn G/WB-006 yn Summits on the Air a chyfeirnod grid yr OS yw SO477953. Saif 1,506 tr (459 m) uwch lefel y môr.

Yn ôl chwedl leol, cuddiodd Caradog mewn ogof ger y copa.

Ceir bryngaer o Oes yr Haearn neu efallai ddiwedd Oes yr Efydd ac o'r cyfnod Celtaidd hwn y daw'r enw. Credir fod brwydr bwysig wedi'i ymladd yma: brwydr olaf y 'Brenin Mawr Caradog' yn erbyn y Rhufeiniaid. Yn ôl chwedl leol, cuddiodd Caradog mewn ogof ger y copa, ac mai'r fryngaer hon oedd ei brif gartref ac amddiffynfa.

Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Cofeb rhyfel
  • Eglwys Sant Lawrens
  • Gorsaf reilffordd
  • Gwesty Longmynd
  • Marchnad

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Syr John Thynne (c.1515-1580)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. National Statistics Church Stretton 2011 population area and density
  2. "Church Stretton". Shropshire Tourism. Cyrchwyd 4 Gorffennaf 2008.


Salop arms.png Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Amwythig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato