John Evans (glöwr)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
John Evans
Ganwyd 1792 Edit this on Wikidata
Bu farw 27 Ebrill 1865 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth mwynwr Edit this on Wikidata
Chwarel Pentre Fron, Coedpoeth
Chwarel Pentre Fron, Coedpoeth
Lleoliad y drychineb

Glöwr o ardal Coedpoeth, Wrecsam oedd John Evans (tua 1792 - 27 Ebrill 1865) a ddihangodd o drychineb wedi deuddeg diwrnod wedi'i gaethiwo o dan y ddaear.

Digwyddodd y ddamwain ar 27 Medi 1819 ym Mhwll Glo Pentre Fron yng Nghoedpoeth. Roedd pwll glo arall yn ffinio gyda Phentre Farm, rhannau ohono yn llawn dŵr. Ymddengys fod llawer o'r glöwyr yn bur bryderus ynglŷn â hyn a'u bod wedi rhybuddio'r stiwardiaid ynglŷn â'r peryglon fwy nag unwaith, ond i ddim pwrpas.

Ar fore'r 27ain aeth 19 o löwyr i lawr y pwll fel arfer. Dihangodd 12 ohonynt yn syth pan ddaeth dŵr i'r pwll, ac achubwyd 4 arall a oedd yn nes at lygad y pwll. Roedd Edward Salisbury, John Taylor a John Evans yn dal ar goll. Pwmpiwyd dŵr o'r pwll am wythnos ac ar yr wythfed diwrnod, aeth glöwyr i lawr y pwll, lle canfuwyd cyrff Taylor a Salisbury. Paratowyd eirch ac amdoeau ar gyfer y tri, a thorrwyd eu henwau ar eu heirch. Ar ddiwedd y deuddegfed diwrnod clywyd llais John Evans. Cliriwyd llwybr tuag ato a daeth o'n ôl i'r wyneb. Roedd wedi treulio deuddeg diwrnod heb olau neu fwyd ar wahân i ddŵr a o oedd yn dripian o'r to a chanhwyllau. Daeth â'r arch adref, lle defnyddwyd ef fel cwpwrdd.

Bu farw ar 27 Ebrill 1865 a chladdwyd ef ym mynwent Capel yr Adwy, yng Nghoedpoeth.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Y Cymro, 25ain Medi, 1979
  • Gwefan MinerAncestry (Saesneg)

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]