Sgwrs:Y Mwynglawdd

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Onid y Mwynglawdd (yn hytrach na Mwynglawdd) sy'n gywir? Y M'wnglodd sydd ar lafar yn lleol.

Diolch am y wybodaeth. Dwi wedi ailenwi'r ethygl ac ychwanegu'r enw ar lafar. Os 'da chi'n nabod yr ardal efallai yr hoffech chi ychwanegu dipyn o wybodaeth? (Mae'n hawdd: cliciwch ar "Golygu" a defnyddiwch "Dangos rhagolwg" i siecio ar ôl gorffen cyn clicio "Cadw'r dudalen") Anatiomaros 20:15, 23 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]
Mwynglawdd sydd ar bob arwydd ffordd a dyna'r ffurf y mae arbenigwyr Comisiynydd y Gymraeg wedi cytuno sy'n gywir. http://www.comisiynyddygymraeg.cymru/Cymraeg/Comisiynydd/EnwauLleoedd/Pages/Manylion.aspx?pnid=12464&keyword=Mwynglawdd Cynigaf felly bod y dudalen yn cael ei ailenwi symud i Mwynglawdd, Wrecsam. (Mae'r Comi hefyd yn cynnig Coed-poeth fel ffurf safonol y pentref drws nesaf, er mai Coedpoeth yw'r unig ffurf dw i erioed wedi gweld mewn defnydd ym mhob man. Efallai bod eisiau trafod?) --Cymrodor (sgwrs) 08:06, 26 Mai 2019 (UTC)[ateb]
Dw i wedi gweld 'Coed-poeth' ar y we ar hen ddogfennau bob hyn a hyn; ond yn y byd go iawn heddiw, 'Coedpoeth' ydy'r enw. Dw i ddim mor sicr am 'Mwyngladd/Y Mwynglawdd'. Gwna' i ofyn tro nesa dw i'n mynd i lawr y bryn.Lesbardd (sgwrs) 08:34, 26 Mai 2019 (UTC)[ateb]