Amwythig

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Yr Amwythig)
Jump to navigation Jump to search
Amwythig
The Square, Shrewsbury.JPG
Coat of arms of Shrewsbury.png
Math tref sirol, tref farchnad, Plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddol Awdurdod Unedol Swydd Amwythig, Shrewsbury and Atcham
Poblogaeth 71,715 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1189 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Swydd Amwythig
(Sir seremonïol)
Gwlad Baner Lloegr Lloegr
Arwynebedd 37.99 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 71 metr Edit this on Wikidata
Gerllaw Afon Hafren Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Wem Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 52.7081°N 2.7544°W Edit this on Wikidata
Cod SYG E04011358 Edit this on Wikidata
Cod OS SJ491124 Edit this on Wikidata

Tref yn Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Amwythig (hefyd Yr Amwythig, ar lafar yn bennaf; hen ffurf: Mwythig; Saesneg: Shrewsbury). Amwythig yw tref sirol a chanolfan weinyddol Swydd Amwythig lle ceir swyddfeydd y cyngor sir. Mae Afon Hafren yn llifo trwy'r dref.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Awgrymir Amwythig fel safle Pengwern, llys brenhinoedd teyrnas Powys cyn i'r deyrnas honno golli ei thir yn y dwyrain i Mercia,[1] ond does dim sicrwydd am hynny.

Codwyd castell ar y safle gan y Normaniaid yn 1070. Ymwelodd Gerallt Gymro ag Amwythig yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188. Cipiwyd Amwythig gan Lywelyn Fawr yn 1215, ac eto yn 1234.

Ar 28 Mehefin 1283 galwodd Edward I o Loegr ei senedd i gyfarfod yn Amwythig i farnu Dafydd ap Gruffudd, Tywysog Cymru a brawd Llywelyn Ein Llyw Olaf. Ar 30 Medi dedfrydwyd Dafydd i farwolaeth am deyrnfradwriaeth. Cafodd ei ddienyddio yn Amwythig ar 3 Hydref trwy ei grogi, ei ddiberfeddu a'i chwarteru.

Mae'r dref yn enwog am ei hysgol ramadeg i fechgyn a agorodd yn 1552; mae'r gwyddonydd Charles Darwin a'r bardd Syr Philip Sydney yn gyn-ddisgyblion. Hi oedd yr unig le lle ceid gwasanaeth trên uniongyrchol o dde-ddwyrain, de-orllewin, canolbarth a Gogledd Cymru.

Cysylltiadau Cymreig[golygu | golygu cod y dudalen]

Y wasg Gymraeg yn Amwythig[golygu | golygu cod y dudalen]

Symudodd Thomas Jones (1648 - 1713) yr almanaciwr ei wasg o Lundain i Amwythig yn 1695 i gyhoeddi llyfrau Cymraeg. Am tua 70 o flynyddoedd ar ôl hynny Amwythig oedd canolfan y fasnach lyfrau Cymraeg (dim tan 1718 y cafwyd y wasg drwyddedig gyntaf yng Nghymru).

Ar ddiwedd y 18fed ganrif roedd gan Stafford Prys wasg yn y dref. Ei gyhoeddiad mwyaf uchelgeisiol efallai oedd y flodeugerdd Gymraeg Gorchestion Beirdd Cymru (1773).

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan Cymru Catalonia; PRIF DDINAS I GYMRU. (Papur a ddarllenwyd i Gymdeithas Lenyddol Parkfield, Penbedw) Y Geninen. Rhif 2, Cyfrol XIII. Ebrill 1895. Tudalennau 81-85.)

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]