Brwydr Amwythig
Gwedd
| Enghraifft o: | brwydr |
|---|---|
| Dyddiad | 21 Gorffennaf 1403 |
| Rhan o | gwrthryfel Owain Glyn Dŵr |
| Lleoliad | Battlefield |
![]() | |
| Gwladwriaeth | Teyrnas Lloegr |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/014_93 |

Ymladdwyd Brwydr Amwythig ar 21 Gorffennaf 1403, gerllaw Amwythig yn Lloegr, rhwng byddin Harri IV, brenin Lloegr a byddin Henry 'Hotspur' Percy, mab hynaf Henry Percy, Iarll 1af Northumberland, oedd wedi gwrthryfela yn erbyn Harri IV.
Roedd Hotspur wedi dod i gytundeb ag Owain Glyn Dŵr, ond nid oedd Owain a'i fyddin yn bresennol yn y frwydr, er bod rhai o'i gefnogwyr yno. Roedd y frwydr i weld yn dechrau troi o blaid Hotspur, ond agorodd ef ddarn gwyneb ei helm, un ai am ei fod yn rhy boeth neu i weld yn well. Tarawyd ef yn ei wyneb gan saeth, a'i ladd yn y fan. Heb ei harweinydd, ffôdd ei fyddin.
