Bae Pont y Pistyll
Gwedd
Math | bae |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Benfro |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.6861°N 5.1685°W |
Bae ar arfordir Sir Benfro yw Bae Pont y Pistyll (Saesneg: Mill Bay). Fe'i lleolir yn ne Sir Benfro ger pentref Dale.
Mae'r bae yn adnabyddus i efrydwyr hanes Cymru fel y man lle glaniodd Harri Tudur ar 7 Awst 1485 i gychwyn ei orymdaith trwy Gymru gan hel ei gefnogwyr wrth deithio yn ei flaen hyd at Machynlleth. Yno, trodd i'r dwyrain gan deithio i'r Amwythig, gan ymladd ym Mrwydr Maes Bosworth ar 22 Awst, lle gorchfygodd fyddin Rhisiart III, brenin Lloegr a chipio Coron Lloegr gan sefydlu llinach y Tuduriaid. Ceir cofeb i dystio am y glaniad.