Arwystli Is Coed
Math | cwmwd ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Teyrnas Powys ![]() |
Sir | Powys ![]() |
Gwlad | ![]() |
Yn ffinio gyda | Arwystli Uwch Coed, Cedewain, Ceri, Maelienydd, Gwerthrynion ![]() |
Cyfesurynnau | 52.5215°N 3.4224°W ![]() |
![]() | |
Cwmwd yn ne-orllewin Teyrnas Powys (gorllewin canolbarth Powys heddiw) oedd Arwystli Is Coed (neu Arwystli Iscoed). Gyda'i gymydog i'r gorllewin, Arwystli Uwch Coed, roedd yn un o ddau gwmwd cantref Arwystli.
Gorweddai'r cwmwd yn y bryniau isel i'r gorllewin o'r Drenewydd. Ffiniai â chantref Cedewain i'r dwyrain, rhannau o Ceri, Maelienydd, a Gwrtheyrnion i'r de, Arwystli Uwch Coed i'r gorllewin, a chantref Cyfeiliog a rhan fach o gantref Caereinion i'r gogledd.
Caersŵs oedd prif ganolfan weinyddol y cwmwd. Roedd Llangurig yn ganolfan eglwysig o bwys. Yn ddiweddarach, yn yr Oesoedd Canol Diweddar, daeth Trefeglwys yn enwog am y Grog o'r Iesu rwymedig yn yr eglwys, a foliwyd gan Siôn Ceri ac mewn cywydd gan awdur anhysbys a dadogir ar Siôn Cent.[1]
Gweler hefyd[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Apocryffa Siôn Cent, gol. M. Paul Bryant-Quinn (Aberystwyth, 2004), cerdd 1