Maesmynnan

Oddi ar Wicipedia
Maesmynnan
Mathsafle archaeolegol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir y Fflint Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru

Plasty gyda rhannau'n dyddio yn ôl i Oes y Tywysogion yw Maesmynnan (neu Maes Mynan) (Cyfeirnod OS: SJ126718), a leolir ar bwys yr A541 i'r de o Gaerwys, ar y ffin rhwng Sir y Fflint a Sir Ddinbych. Dywedir y bu gan Lywelyn ein Llyw Olaf lys yma neu gerllaw[1] am gyfnod ac y darganfuwyd peth o'i drysorau yma rai blynyddoedd yn ddiweddarach:

It should also be observed, that a portion of the Welsh crown jewels was discovered, a few years back, at Maes Mynnan, where Prince Llywelyn once resided. They had evidently been hidden at the time above alluded to. [2]

Dywed Thomas Pennant yn ei Tours of Wales:

This place has been called Llŷs Maes Mynan... where Llywelyn ap Gryffydd, last Prince of Wales, resided in a house, whose foundations, till within these few years, were to be seen in an adjacent meadow..[3]

Mae Coed Maesmynnan gerllaw; roedd cloddfa o Oes yr Efydd yn arfer bod yma hefyd, ond mae wedi ei chwalu'n gyfangwbwl, bellach, gan y chwarel gyfagos. Hefyd gerllaw, lle mae afon Chwiler yn ymuno ag afon Clwyd mae pont fechan o'r enw Pont Ruffudd (sef 'Pont Gruffudd').

Yn 1993 cafwyd arolwg archaeolegol ar y caeau perthnasol gan Gymdeithas Archaeoleg Clwyd-Powys.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Handbook for the Vale of Clwyd, gan William Davis, argaraffwyd gan Isaac Clarke, 1856.
  2. [1] Welsh Rolls 187-.
  3. Tours of Wales (Argraffwyd gan S. Hamilton, Weybridge; Cyfrol 11).