Iorwerth Drwyndwn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Beddrod Iorwerth Drwyndwn yn Eglwys Pennant Melangell.

Iorwerth Drwyndwn neu Iorwerth ab Owain Gwynedd (fl. ail hanner y 12g) oedd tad Llywelyn Fawr a hendaid Llywelyn ap Gruffudd ar ochr ei dad. Mae'n bosibl fod ei lysenw, a ddefnyddid yn gyffredinol, yn cyfeirio at nam ar ei drwyn neu anaf mewn brwydr. Os nam naturiol oedd ar ei drwyn byddai hyn yn ei amddifadu o'r hawl i olynu ei dad fel brenin Gwynedd, er ei fod yr hynaf o feibion cyfreithlon Owain Gwynedd (yn ôl y Cyfreithiau roedd rhaid i frenin fod yn ddi-nam).

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ychydig iawn a wyddys amdano. Yn ôl un ffynhonnell, cafodd ei ladd mewn brwydr ger Pennant Melangell yn yr ymgiprys am goron Gwynedd ar ôl marwolaeth ei dad (efallai yn 1174). Ceir beddrod iddo yn Eglwys Pennant Melangell.

Teulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Iorwerth yn un o saith fab Owain Gwynedd. Ei frodyr oedd Hywel ab Owain Gwynedd (y bardd-dywysog, m. 1170), Rhun (m. 1146), Maelgwn, Dafydd (m. 1203), Rhodri (m. 1195, hendaid Senana gwraig Gruffudd ap Llywelyn a mam Llywelyn ein Llyw Olaf), a Chynan (tad Gwerful Goch a gorhendaid i Fadog ap Llywelyn, arweinydd y gogledd yng Ngwrthryfel Cymreig 1294-96 yn erbyn y goresgyniaid Seisnig).

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • J. E. Lloyd, The History of Wales from Earliest Times to the Edwardian Conquest (Llundain, 1911)