Blwchfardd

Oddi ar Wicipedia
Blwchfardd
GanwydYr Hen Ogledd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd6 g Edit this on Wikidata

Blwchfardd (fl. 6g?) oedd un o'r beirdd cynharaf yn y Traddodiad Barddol Cymraeg. Fe'i cysylltir â'r Hen Ogledd a'r Hengerdd. Roedd yn gyfoeswr i Aneirin a Taliesin.

Tystiolaeth amdano[golygu | golygu cod]

Ni wyddys dim am y bardd ar wahân i'r ffaith ei fod yn fardd gynnar a ganai yn yr Hen Ogledd, yn ôl pob tebyg. Ceir y cyfeiriad cynharaf ato gan Nennius yn yr Historia Brittonum ar ôl nodyn am Ida, brenin Northumbria (547-579):

'Ar y pryd, yn yr amser hwnnw ymladdai Dutigirn (=Eudeyrn) yn wrol yn erbyn cenedl yr Eingl. Yr un adeg bu Talhaearn Tad Awen yn enwog mewn barddoniaeth, a Neirin (=Aneirin) a Thaliesin a Blwchfardd a Chian (a elwir Gwenith Gwawd) ynghyd yn yr un amser a fuant enwog mewn barddoniaeth Gymraeg.'[1]

Mae'r enw barddol Blwchfardd (blwch + bardd) yn ymddangos yn un rhyfedd i ni heddiw, ond ystyr y gair blwch yma, yn ôl pob tebyg, yw 'lle caeedig'. Ceir sawl cyfeiriad ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol at ymrysonau barddol, weithiau mewn cysylltiad â bueirth, ac ymddengys yn debygol mae rhyw darn o dir arbennig, efallai'n gysylltiedig ag ysgol farddol, yw'r blwch yn enw'r bardd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Ifor Williams (gol.), Canu Taliesin, t. ix.