Tref y Penrhyn

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Lleoliad Dinas Tref y Penrhyn o fewn Rhanbarth Gorllewin y Penrhyn

Dinas a phorthladd yn Ne Affrica yw Tref y Penrhyn (Saesneg: Cape Town; Afrikaans: Kaapstad, /ˈkɑːpstɑt/; Xhosa: iKapa). Mae'n brifddinas ddeddfwriaethol y wlad, yn brifddinas daleithiol Gorllewin y Penrhyn, ac yn ganolfan bwrdeistref Dinas Tref y Penrhyn. Lleolir ym mhen gogleddol Gorynys y Penrhyn yn ne orllewin De Affrica, tua 50 km i ogledd Penrhyn Gobaith Da. Saif ar droed Mynydd y Bwrdd, ar arfordir Bae'r Bwrdd yn ne Cefnfor yr Iwerydd.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Sefydlwyd Tref y Penrhyn ym 1652 gan y llywodraethwr Jan van Riebeeck, Cadlywydd Trefedigaeth y Penrhyn, yn orsaf gyflenwi ar fôr-lwybr Cwmni Iseldiraidd India'r Dwyrain. Hon oedd y wladfa Ewropeaidd gyntaf yn Ne Affrica. Meddiannwyd y ddinas gan yr Ymerodraeth Brydeinig ym 1795. Dychwelodd i'r Iseldirwyr ym 1803, ond cafodd ei hailgipio gan y Prydeinwyr ym 1806 a'i gwneud yn brifddinas Trefedigaeth Penrhyn Gobaith Da. Daeth Tref y Penrhyn yn y brifddinas ddeddfwriaethol genedlaethol, a Pretoria yn y brifddinas weinyddol, pan ffurfiodd Undeb De Affrica ym 1910. Roedd yn brifddinas Talaith y Penrhyn o 1910 hyd 1994, ac yn brifddinas Dwyrain y Penrhyn ers hynny.

Economi[golygu | golygu cod y dudalen]

Un o ganolfannau economaidd mwyaf Affrica yw Tref y Penrhyn. Ceir, nwyddau lledr a phlastig, a dillad yw'r prif ddiwydiannau, ac mae puro olew, bwyd a gwin, offer peirianyddol, a chemegion a gwrtaith i gyd yn ddiwydiannau pwysig.

Allforir aur, diemyntau a ffrwythau gan y porthladd. Hwn yw un o ddociau sych mwya'r byd, ac mae atgyweirio llongau yn ddiwydiant pwysig. Mae rhan fawr o ardal y dociau bellach yn ganolfan fasnachol a thwristaidd ar lan y dŵr gydag amgueddfeydd, marchnadau crefftau, a bwytai.

Demograffeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Trigai dros 3.7 miliwn o bobl yn yr ardal fetropolitanaidd, yn ôl cyfrifiad 2011. Tref y Penrhyn felly yw'r ddinas ail fwyaf boblog yn Ne Affrica ar ôl Johannesburg. Mae 42.4% o'r boblogaeth yn bobl liw'r Penrhyn, 38.6% yn Affricanwyr Duon, 15.7% yn groenwyn, 1.4% yn Indiaidd neu Asiaidd, a 1.9% o hil neu grŵp ethnig arall. Affricaneg, Xhosa a Saesneg yw prif ieithoedd y ddinas.[1]

Adeiladau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Castell Gobaith Da (codwyd 1666)
  • Yr Eglwys Ddiwygiedig Iseldiraidd (codwyd 1699)
  • Hen Dŷ'r Dref (1755; adeilad cyhoeddus cyntaf y ddinas, sy'n cynnwys oriel o baentiadau o Fflandrys a'r Isalmaen)
  • Prifysgol Tref y Penrhyn (sefydlwyd 1829)
  • Ystad Groote Schuur (cyn-gartref y prif weinidog a'r arlywydd)
  • Senedd yr Undeb
  • Maes Awyr Rhyngwladol Tref y Penrhyn
  • Ynys Robben (hen garchar)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) City of Cape Town. Statistics South Africa. Adalwyd ar 14 Gorffennaf 2016.