Khoikhoi

Oddi ar Wicipedia
Khoikhoi
Enghraifft o'r canlynolgrŵp ethnig Edit this on Wikidata
MathAfrican people Edit this on Wikidata
MamiaithAffricaneg, khoekhoe edit this on wikidata
CrefyddCristnogaeth edit this on wikidata
GwladwriaethNamibia, De Affrica, Botswana, German South-West Africa Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Khoikhoi

Grŵp ethnig yn Namibia a De Affrica yw'r Khoikhoi ("pobl y bobl" neu "y bobl go-iawn"), hefyd y Khoi, neu yn silliafiad yr iaith Khoekhoe/Nama, Khoekhoe. Maent yn rhan o grŵp ethnig y Khoisan, yn perthyn yn agos i'r San. Gelwir hwy weithiau yn Hottentot, ond bellach ystyrir hyn yn sarhaus.

Dengys archaeoleg fod y Khoikhoi wedi symud i mewn i Dde Affrica o'r gogledd trwy'r hyn sy'n awr yn Botswana. Yn ddiweddarach, gorfodwyd hwy i symud i ardaloedd llai ffrwythlon pan symudodd y bobloedd Bantu tua'r de. Pan gyrhaeddodd yr ymsefydlwyr Ewropeaidd cyntaf yn 1652, roeddynt yn byw yn rhan ddeheuol De Affrica, yn cadw gwartheg. Roedd nifer o grwpiau gwahanol, ond erbyn hyn maent wedi diflannu heblaw am y Nama.