Swlŵeg

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Wikipedia
Argraffiad Swlŵeg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd

Mae Swlŵeg (isiZulu yn Swlŵeg) yn iaith a siaredir yn Affrica Ddeheuol (yn arbennig yn Ne Affrica, ond hefyd yn Gwlad Swasi a Mosambic, yn bennaf gan grŵp ethnig y Swlŵiaid). Mae'n perthyn i deulu ieithyddol yr ieithoedd Niger-Congo ac is-deulu’r ieithoedd Bantŵ.

Mae tri phrif fath o gytsain glec yn Swlŵeg sy'n cyfateb yn fras i q /ǃ/, c /ǀ/ a x /ǂ/. Un o ieithoedd swyddogol De Affrica ydy hi. Deellir Swlŵeg gan siaradwyr Xhosa a Swati hefyd, oherwydd i'r ieithoedd hynny berthyn i grwp Nguni yr ieithoedd Bantŵ. Tua 10 miliwn o bobl sydd yn medru Swlŵeg yn Ne Affrica.

Creoliaith Gauteng[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir tafodiaith neu greoliaith sy'n seiliedig ar ramadeg Swlŵeg yn maestrefi talaith Gauteng ac yn enwedig Soweto. Ei enw yw isiCamtho. Cyfeirir ato hefyd, weithiau, gan y term sydd wedi dod yn generic i ddatblygiadau tafodiaith o'r fath fel Tsotsitaal.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Globe of letters.svg Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Africa stub icon.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Affrica. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato