Shaka

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Shaka
KingShaka.jpg
Ganwyd 1787 Edit this on Wikidata
Melmoth Edit this on Wikidata
Bu farw 22 Medi 1828 Edit this on Wikidata
KwaDukuza Edit this on Wikidata
Galwedigaeth gwleidydd Edit this on Wikidata
Swydd brenin Edit this on Wikidata
Tad Senzangakhona kaJama Edit this on Wikidata
Mam Nandi Edit this on Wikidata
Teulu Mpande kaSenzangakhona, Dingane, Umhlangana kaSenzangakhona Edit this on Wikidata

Brenin y Zulu yn Ne Affrica oedd Shaka (Mehefin 1786 - 22 Medi 1828). Dan ei lywodraeth ef, daeth y Zulu i reoli rhan helaeth o'r hyn sy'n awr yn Dde Affrica, rhwng afonydd Phonogolo a Mzimkhulu.

Roedd Shaka yn fab i Nandi a'r brenin Senzangakhona, ond gan nad oedd ei rieni yn briod, magwyd ef gan Dingiswayo, brenin y Mthethwa. yn hytrach na gan ei dad. Wedi marwolaeth ei dad, cafodd gymorth Dingiswayo i orchfygu ei hanner-brawd Siguyana a dod yn frenin tua 1812.

Dechreuodd ei yrfa fel concwerwr yn 1816, gan orchfygu tylwythau eraill y Zulu. Gwnaeth newidiadau mawr i ddulliau rhyfela ymhlith y Zulu, gan arfogi ei filwyr a gwayffyn byrion ar gyfer trywanu yn hytrach na'r waywffon hir i'w thaflu. Trefnodd y fyddin yn gatrodau yn ôl oedran. Yn 1824 gwnaeth gytundeb a'r ymsefydlwyr Ewropeaidd yn Ne Affrica.

Ym mlynyddoedd olaf ei deyrnasiad aeth ei reolaeth yn fwy gormesol. Wedi marwolaeth ei fam, Nandi, dangosodd ei alar trwy ladd nifer fawr o bobl oedd, yn ei farn ef, ddim yn ymddangos yn ddigon trist. Llofruddiwyd ef gan ei ddau hanner-brawd, Dingane a Mhlangana, a chuddiwyd ei gorff fe na ellid dod o hyd iddo.