Dirwasgiad Mawr

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Y Dirwasgiad Mawr)
Dirwasgiad Mawr
Enghraifft o'r canlynoleconomic crisis, dirwasgiad, cyfnod o hanes, oes Edit this on Wikidata
Dechreuwyd29 Hydref 1929 Edit this on Wikidata
Daeth i benc. 1941 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysGreat Depression in Australia, Great Depression in Canada, Great Depression in Central Europe, Great Depression in Chile, Great Depression in France, Great Depression in Latin America, Great Depression in the Netherlands, Great Depression in South Africa, Great Depression in the United Kingdom, Great Depression in the United States, Great Depression in India, Shōwa Depression Edit this on Wikidata
GwladwriaethAffganistan, yr Ymerodraeth Brydeinig, Gweriniaeth Weimar, y Drydedd Weriniaeth Ffrengig, Tsile, Yr Iseldiroedd, De Affrica, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Llun enwog Dorothea Lange o fam ddiwaith, Califfornia, 1932

Roedd y Dirwasgiad Mawr (Saesneg: The Great Depression) yn gyfnod o ddirywiad economaidd enbyd, a ddechreuodd gyda chwymp y farchnad stoc ar 29 Hydref, 1929, sy'n adnabyddus fel Cwymp Wall Street neu 'Dydd Mawrth Du' (Black Tuesday).

Dechreuodd yn yr Unol Daleithiau ac ymledodd yn gyflym i Ewrop a phob rhan o'r byd bron, gyda chanlyniadau ysgytwol yn y gwledydd diwydiannol ynghyd â'r gwledydd a ddibynnai arnynt i allforio nwyddau crai. Aeth masnach ryngwladol i lawr yn gyflym, yr un modd ag enillion personol, refeniw o drethi, prisiau ac elw. Tarwyd nifer o ddinasoedd ledled y byd, yn enwedig y rhai a ddibynnai ar ddiwydiant trwm. Daeth gwaith adeiladu i ben bron mewn nifer o wledydd. Dioddefodd ffermio ac ardaloedd gwledig yn ogystal wrth i brisiau cnydau gwympo rhwng 40 i 60 y cant. Gwelwyd yr effaith yn arbennig o drwm ar y diwydiant glo a mwyngloddio wrth i'r alwad am eu cynnyrch ddisgyn yn sylweddol iawn a chan nad oedd dewis gwaith amgen i'r rhan fwyaf o'r gweithwyr.

Sefydlwyd rhaglenni cymorth ac adnewyddu gan nifer o wledydd ond un canlyniad o'r argyfwng economaidd oedd yr ansefydlogrwydd gwleidyddol a ddaeth yn ei sgîl, gyda thyfiant mawr mewn pleidiau asgell dde ac asgell chwith eithafol, streiciau, protestiadau, a rhyfeloedd cartref. Roedd seiliau democratiaeth dan fygythiad a gwelwyd unbeniaid fel Hitler, Stalin, Franco a Mussolini yn tyfu mewn grym a gwleidyddiaeth y byd - yn arbennig yn Ewrop - yn polareiddio, gan osod y llwyfan ar gyfer yr Ail Ryfel Byd yn 1939.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am economeg neu arianneg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.