Lima
Gwedd
| Math | dinas, dinas fawr, gwrthrych daearyddol, mega-ddinas, y ddinas fwyaf |
|---|---|
| Poblogaeth | 9,943,800 |
| Sefydlwyd | |
| Anthem | Himno de Lima |
| Pennaeth llywodraeth | Rafael López-Aliaga |
| Cylchfa amser | UTC−05:00 |
| Gefeilldref/i | Miami, Akhisar, Cleveland, Pescara, San José, Costa Rica, Bordeaux, Beijing, Trujillo, Tegucigalpa, São Paulo, Manila, Buenos Aires, Dinas Mecsico, Madrid, Austin, Santo Domingo, Brasília, Kyiv, Taipei, Tbilisi |
| Nawddsant | Rose of Lima |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Talaith Lima |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 2,672.28 km² |
| Uwch y môr | 154 metr |
| Gerllaw | Río Rímac |
| Cyfesurynnau | 12.06°S 77.0375°W |
| Cod post | 15001 |
| Pennaeth y Llywodraeth | Rafael López-Aliaga |
![]() | |
| Sefydlwydwyd gan | Francisco Pizarro |
Prifddinas a dinas fwyaf Periw yw Lima. Saif yng nghanolbarth y wlad, ger yr arfordir yn nyffrynnoedd afonydd Chillón, Rímac a Lurín. Gyda phorthladd Callao mae'n ffurfio Adral Ddinesig Lima.
Sefydlwyd y ddinas gan y concwistador Sbaenig Francisco Pizarro ar 18 Ionawr 1535, fel Ciudad de los Reyes. Daeth yn brifddinas y Virreinato del Perú yn ystod cyfnod yr ymerodraeth Sbaenig, yna wedi annibyniaeth daeth yn brifddinas Gweriniaeth Periw. Mae 26.6% o boblogaeth Periw yn byw yn yr Ardal Ddinesig, tua 8,447,260.
Cyhoeddwyd canol hanesyddol Lima yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1988, pherwydd y nifer fawr o adeiladau hanesyddol o gyfnod ymerodraeth Sbaen, yn arbennig y Plaza Mayor, a'r eglwys gadeiriol o'r 16g.

